Tuesday, June 02, 2009

wack

rhywbeth drawodd fi pwy ddiwrnod yw hyn, tra own i'n gorwedd yn y gwely yn pendroni pam wi'n lico ein gwely ni cymaint...

"mae 'na le ifi ymestyn ynddo fe," myntwn i.

ond dyma fi wedyn yn trio llunio brawddeg debyg yn gymraeg canol - a phryd 'ny y ces i 'nharo gyda'r fricsen gystrawennol 'ma, achos wi'n hanner credu y byddai modd sgrifennu hyn:
"y mae lle ym Y ymestyn yndaw ef"

Y! fan 'na? ...falle?

...rîli?

p'un ai fi ai cymraeg canol sy'n wack, tybed?

1 comment:

asuka said...

os oes bosib sgrifennu "y mae lle ym y ymestyn", tybed ydy hyn'na achos mae'r "ym" yma yn gweithredu fel "gen i": mae e'n mynegi meddiant (sef pwy sy'n meddiannu ar y "lle") yn hytrach na goddrych y berfenw "ymestyn"...?
bant i gael te mawr ni.