Monday, June 08, 2009

llongyfarchiadau!!!

mae RHYWUN yn graddio.
mae RHYWUN yn haeddu lly bob mymryn o wir longyfarchiadau a'r clodydd i gyd y galler eu pentyrru lan arni hi.

SO DA IAWN TIMOD-P-W-T!!!

heb os gwelir dy eisiau o gwmpas yr hen le (wel, gan y sawl sydd o gwmpas yr hen le i'w weld e), ond pob lwc iti a phob dynumiad da!

7 comments:

Emma Reese said...

Pwy sy'n graddio felly?

asuka said...

ffrind i ni yn yr adran geltaidd yn harvard, sy newydd raddio (/ar fin graddio?) gyda'i phd.

un sy bellach, wi'n credu, wedi cymryd arni y llysenw "malone" - "persephonia" a fu. ^^

un sy'n medru cymraeg yn wych, ac a fyddai bob amser ar ei gwên pan fyddwn i'n ei gweld hi o gwmpas y coleg. un o'r goreuon!

asuka said...

a malone a sefydlodd y blog 'ma.

Emma Reese said...

Llongyfarchiadau i Malone felly!

Malone said...

Wel, diolch yn fawr iawn i'r dau ohonoch! Doedd dim llawer o amser am syrffio'r internets yn ddiweddar, ond mae'n neis iawn dod o hyd i'ch negeseuon chi!

(Gyda llaw, pam nad wyt ti'n ar Facebook eto, 'Suk??)

asuka said...

mae da finne gwestiwn 'fyd, sef pam na fydd dy gyfeiriad ebost di'n gweithio mwyach? oes 'na un sy'n fwy cyfredol?

Malone said...

oes! ddrwg gen' i, ac arhosa am funud ...