Mae'n bwrw eira!!
Achos fy mod i'n dod o Virginia, dw i'n hoff iawn o eira. Pan roeddwn i'n ferch fach, byddai'r ysgol yn cau o achos fodfedd o eira -- byddwn i'n chwarae yn yr eira gyda'r cwn, ac yn yfed siocled poeth o flaen y tân. Mae'n rhyfedd imi o hyd pan mae'r cyrsiau a phopeth yn mynd ymlaen jyst fel arfer fan hyn.
Mae'n braf nawr, ond clywais i bod *troedfedd* o eira yn dod cyn yfory. Wow. Dw i ddim eisiau gwneud unrhyw beth pan mae'r tywydd fel hyn (well, mae'n debyg nad ydw i eisiau gwneud gwaith cartref mewn unrhyw dywydd, ond mae'n arbennig o anodd ar ddyddiau fel heddiw) -- dw i eisiau gwau ac yfed siocled a chysgu o dan orchudd trwm o flancedi.
Sunday, March 01, 2009
Pam fod eira'n wyn ...
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Mae'r tywydd yn bert iawn yn Boston on'd yw hi... yn haeddu cerdd neu ddwy!
Mae hi'n bwrw eira yn Iwerddon hefyd, ond dwi wedi cael digon o'r tywydd oer. Ble mae'r haul?
Aled: Mae'r eira'n bert, mea'n wir -- ond roedd hi'n well heddiw! :)
Melys -- Gobeithio ei fod ef yn dod yn ôl yn gyflym, gyda'r haf ar ei ôl! Mae ef wedi bod yn oer iawn yn Boston, ond roedd y pen-wythnos yn hardd. Gobeithio bod ychydig o haul gyda chi yn Iwerddon hefyd!
Post a Comment