Sunday, February 08, 2009

Cyflwyniad

Helô! Eric ydw i, ac rydw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers mis Medi (mae hyn yn swnio ychydig fel dechrau cyfarfod AA, on'd yw hi?). Rhag ofn eich bod chi'n gofyn pam dechreuis i ddysgu'r iaith, allaf i ddim meddwl am reswm gwell na chredu ei bod hi'n hardd iawn...ond nawr mae lot o resymau gyda fi i barhau.

Rydw i'n astudio hanes a gwleidyddiaeth Rwsia a'r hen Undeb Sofietaidd. Rydw i'n gofyn imi fy hun yn aml pam dewisais i'r maes yma, ond wedyn rydw i'n ffeindio rhywbeth fel hyn a chofio. Byddaf i'n ymladd y chwant i bostio storïau chwerthinllyd am Rwsia bob wythnos, er y bydd yn anodd iawn i'w wneud...

3 comments:

Gwybedyn said...

Croeso i HarvardCymraeg, Eric, ac i'r blogosffêr Cymraeg! - mae dy Gymraeg di'n wych ar ôl llai na hanner blwyddyn o ddysgu!

Charasiô!

Emma Reese said...

Helo Eric. Dw i'n cytuno â szczeb. Fedra i ddim credu mai ers dim ond misoedd rwyt ti'n dysgu. Rhaid bod gen ti diwtor medrus pwy bynnag mae o. Neu mae dawn dysgu ieithoedd gen ti.

Gwybedyn said...

Ac rwy'n edrych ymlaen at ddarllen tipyn yn rhagor am Rwsia!