newydd glywed bod kasi a becky yn cael gwneud cyrsiau iaith yng nghymru dros yr haf i ddod. mae hyn mor wych, ac rwy mor falch bod hyn yn bosibl i'r ddwy ohonoch chi!
ychydig o fanylion plîs! e.e. ble? aros mewn coleg neu beth? ych chi'ch dwy'n mynd i'r un lle? ac am faint o amser?
Tuesday, June 17, 2008
hedfan i gymru!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
28 comments:
Cyffro gwych! Bon voyage i'r ddwy!
Ar drywydd arall - mms://s4c.unique-media.tv/s4c_uk/bsm/bandit__pennod_8_cymraeg_dalet0000bdece500.wmv?sami=http://www.s4c.co.uk/sami/A324988897.smi
Rhaglen Bandit yn dod o Eisteddfod yr Urdd. Mae'r dechrau yn enwedig yn ddoniol dros ben.
Mae'n dda iawn hefyd o 8'08" ymlaen - cyflwyniad i Mr Huw yn canu cân ardderchog 'Canibals a Rhyw' (wir - nid yw'r fideo i'w gwylio gan y gwan!).
Os ydyn nhw'n cael y cyfle i dod i Gaerdydd (unai i astudio neu am ymweliad byr), a hoffen hw gwrdd a siaradwyr Cymraeg am beint yn y Mochyn Du - dwed wrthynt am adael sylw ar fy mlog, nue fy e-bostio (rhys AT jobs-cymraeg.com)
Gyda llaw, sut wyt ti wedi llwyddo cael:
Symbolau defnyddiol:
â ê î ô û ŵ ŷ
i ymddangos ar ben y blwch sylwadau?
Hedfan i Gymru? Hwre! Dw i eisiau mynd hefyd!
Blwydden nesa, efallai...
diolch rhys - gwna' i'n siwr y gwyddan nhw. yn enwedig os taw yng nghaerdydd y byddan nhw, gall fod yn anodd i ddysgwyr gwrdd â siaradwyr cymraeg tu fas i'r dosbarth yn y ddinas 'mwn i.
o ran y symbolau defnyddiol:
gan iwso taclau blogger, cer i "settings", ac wedyn i "comments", a gelli di ychwanegu unrhyw "comment form message" ti moyn, a fydd yn ymddangos uwchben y blwch fel 'na.
(ie, plantos, gellwch chithau ailgreu'r effeithiau i gyd y byddwch yn eu gweld ar y blog hwn - ac ar 'mlog tlws innau 'fyd - heb wybod yr un gair o html! ^^)
O.N. ga' i ofyn ichi am gyngor ynghylch dot.SUB? leiciwn i chwarae gyda hi, ond sa' i'n siwr sut mae dechrau. gadewais i neges ar maes-e hefyd, yn seiat "y rhithfro".
Diolch am y wybodaeth am Blogger, byddai'n ei drio wap (er mwyn gosod côd/tagiau HTML ysgrifen bold, italig a dolenni i arbed amser). Bydda i'n defnyddio To Bach i roi.. erm, 'to bach' ar ben llythrennau - mae'n ddefnyddiol iawn ac am ddim. Llawer gwell na 'cut and paste.
O ran dot.SUB, tydi hi ddim yn edrych mor hawdd i'w defnyddio ac y dylai fod.
Dim ond unwaith ddefnyddiais i e i ychwanegu tipyn o isdeitlau Cymraeg i fideo oedd yno'n barod am godi arian i Wikimedia. Pan geisiais fewngofnodi'r ail dro i roi mwy barhau gyda'r isdeitlo ges i drafferth os dwi'n cofio'n iawn. Pa mor bell wuyt ti wedi cyrraedd, wyt ti wedi creu cyfrif, ac yna wedi cesio gosod fideo dy hun ymlaen neu gesio ychwanegu is-deitlau at fideo arall.
Mi geisiaf eto pan gai amser. Dwi ddim yn gallu edrych ar maes-e yn y gwaith am ryw reswm :-(
"... gosod côd/tagiau HTML ysgrifen bold, italig a dolenni i arbed amser"
swnio'n ddefnyddiol - cymera i gip i weld pa syniadau y dylwn i eu dwyn oddi arnat. ^_^
(a gwna' i tsieco'r "to bach" 'ma mas 'fyd - diolch.)
o ran dot.SUB: rwy wedi creu cyfrif, ond sa' i'n gwybod sut mae creu ffeil o ffilm (sydd genny' ar DVD) i'w lanlwytho ar y we. rwy'n gofyn ifi fy hunan pa feddalwedd sy eisiau, ac a ydy hi ar gael ar y rhyngrwyd?
reit wrth gam 1 rwy'n cael problemau, felly!
zoe, flwyddyn nesa' "efallai" - bendant, dŵd!
Damio Blogger!
Wyt ti'n deall rhywfaint o HTML?
Tydio o ond yn derbyn rhai HTML (gweler o dan y blwch yma).
Dwi'n ceisio gosod script ar gyfer dolen, bold ac italig, a defnyddio tag 'textarea' fel nad yw'r cael ei drosi, ond allai ddim.
dolen
italig
trwm
Dwi'n give up
am rwystredigaethus - rwyf finnau moyn treio nawr!
ife dyma'r effaith rwyt ti'n anelu ati?:
<b>trwm</b> —> trwm
Mae cael sgript ar ei ochr a hefyd sgript trwchus du yn ddigon hawdd ei wneud, fel y dangosodd yr hen Suk, a chan hynny caf weud taw i Aberystwyth y bydd y merched yn mynd, yn ôl a ddeallaf, yn hytrach nag i Gaerdydd. Ond eto dylen nhw wneud trip bach i'r hen Fochyn Du!
Gobeithio y galwant heibio ymhen diwrnod neu ddau i ychwanegu gair neu ddau o'u henau eu hunain.
aberystwyth!
neis iawn! diolch szczeb am y ddolen hefyd - rwy ar fin gwrando arni.
ffordd rych chi i gyd yn leicio'r adran newydd uwchben y blwch "gadael sylw"? ife peth da yw e neu ydy e'n cymryd gormod o le?
(rwy i'n ei leicio e - rhys wynne a gafodd y syniad, a gwnes i helpu gyda'r manylion.)
go dda, am wn i - mae angen help ar yr ochr HTML arna' innau, beth bynnag!
(ai dyna'r unig tagiau html y cawn eu defnyddio?)
os oes 'na dagiau eraill y bydd blogger yn eu derbyn mewn sylwadau, rwy heb eu darganfod nhw.
beth arall a fyddai'n ddefnyddiol yn dy dŷb di - ffordd o ddangos dyfyniad o sylw arall, falle? tybed oes modd gwneud hyn'na?
Dwi'n meddwl ei fod yn edrych yn dda. Dyma'r unig dagiau bydda i'n eu defnyddio, ac o dan y blwch sylw mae'n dweud:
You can use some HTML tags, such as [b], [i], [a]
felly dybiwn i nad yw'n derbyn rhai eraill.
roedd dysgwr arfer cadw blog (allai'm ffendio fo rwan), a oedd yn reit handi gyda HTML, ac roedd oon defnyddio rhyw sgript, ble roedd on rhoi 'alt text' (yn Saesneg) i eiriau Cymraeg anghyfarwydd roedd o'n ddefnyddio. Roedd yn edrych yn rili dda.
diolch - rwy'n falch ofnadwy o'r "olwg" newydd!
tagiau - mae'r geiriau such as fel 'sen nhw'n gadael lle i ddyn obeithio y bydd 'na ragor. ond mae hi'n debyg nad oes.
"alt text" - syniad gwych. ond os caniateir gan blogger mewn sylwadau, gwyrth fydd genny'.
wel, gwyrth gwyrthiau!
hen chwilen diwyd sydd wedi bod wrthi'n dysgu HTML! :)
chwarae teg i'r chwilen. rwy 'di dwyn y syniad yn barod at 'mlog innau!
Ac rwyf innau wedi dysgu gen ti hefyd, i newid yr hyn a ysgrifennais
rhyw ychydig o "'nôl-ac-'mlân" de!
peth od - mae gen i destun cudd yn y sylwad diwethaf, ond dyw ef ddim yn ymddangos yn wyrdd ar y blog.
odiach fyth - mae wedi troi'n las bellach.
mae e'n las erioed ar fy sgrîn i.
hei HTML-chwilen, os wyt ti am newid/chwarae gyda'r hyn ychwanegais i uwchben y blwch "gadael testun" gyda llaw, dylet ti. 'sdim ots 'da fi - a gwna' i weud os na fydda' i'n leicio rhywbeth.
Wela' i ddim yr hoffwn ei newid yn fan'na.
Post a Comment