Friday, May 16, 2008

Ein daeargryn Sichuan ni

Heddiw, ro'n i'n cerdded heibio'r Canolfan Gwyddoniaeth, pan sylwais i ddyn Tsieineaidd ifanc tal yn sefyll yn y glaw ysgafn. Roedd y sylwadau ganddo yn ei llaw, ond pawb yn brysio ar eu ffyrdd heb olwg. Welais i fod y dyn yn crio.

Dyn o "Harvard Chinese Students and Scholars Association" oedd e, a roedd e'n gofyn am gyfraniadau o arian ar gyfer dioddefwyr daeargryn Sichuan. Ro'n i jyst wedi gwrando ar stori drist ar NPR (RHYBUDD - y stori hon yn drasig iawn iawn. Byddi di'n crio. Ond rhaid i fi ddweud, mae'r newiddiaduriaeth yma'n wych.) Rhoddais i gymaint â phosibl iddo - roddais i ddim llawer o arian neu gymorth, dwi'n ofni, ond rhywbeth o leiaf.

Os oes diddordeb gyda unrhyw un â rhoi rhywbeth i Red Cross, 'dych chi'n gallu gwneud hynny ar y safl 'ma.

Dwi'n teimlo mor drist am y bobl o Tseina heno. . .

. . . ac am y bobl o Myanmar hefyd.

1 comment:

asuka said...

diolch am y neges hon. mae'r sefyllfa mor ofnadwy o drist - da cael atgofio bod 'na *rywbeth* y geill dyn ei wneud.