Monday, May 12, 2008

"darth vader ydw i heno!"

rwy'n siwr taw y fi yw'r person ola' yn y byd i glywed am hyn. ond mae'n dal yn wych, felly dyma'r fideo a dyma'r stori yn y gymraeg jest rhag ofn.
mae'n dangos pa mor beryglus gall fod chwarae â lightsabers yn yr ardd. os oes unrhyw un yn nabod unrhyw un sy'n gwneud hynny, rhowch chi wybod iddyn nhw!

hei, mae'r holl beth yn gwneud synnwyr mewn ffordd. yn yr hen ddyddiau, roedd ynys môn yn ganolfan i'r derwyddon, on'd oedd? felly mae'n debyg bod yr ynys fel planed dagobah yn the empire strikes back erioed, planed yoda lle mae rhaid i jedis wynebu eu hofnau mwyaf. (darth vader cymraeg yn yr achos hwn, mae'n ymddangos.)

1 comment:

Emma Reese said...

Diolch am y rhybudd. Mi nes i ddweud wrth fy mab am fod yn ofalus pan neith o chwarae efo lightsabers. ^^