Sunday, March 02, 2008

Wedi Blino

Rydw i’n teimlo braidd yn flinedig. Roeddwn i’n astudio drwy'r dydd. Mae dau gwis gyda fi yfory – cwis Cymraeg a chwis Almanaeg. Rydw i’n leicio astudio ieithoedd, ond mae hi’n cymryd llawer o amser. A rhaid imi baratoi ar gyfer cynhadledd yn LA. A rhaid, Sarah, gobeithio bod amser gyda thi i wneud dy waith siopa.

9 comments:

Becky said...

Pob lwc yfory!

Gwybedyn said...

ie - pob lwc yn y cwis! dere 'nôl i ddweud wrthym sut aeth pethau!

Malone said...

Hei E~ pob lwc oddi wrthom hefyd! (Byddi di'n iawn, dwi'n siwr.)

Kasi said...

Pob lwc yr wythnos hon, Edyta. Rydw i'n siwr y bydd yn ardderchog!

asuka said...

pob lwc, edyta! yn enwedig ar gyfer y cwis cymraeg (rwy'n clywed fod y tiwtor 'na'n llym ofnadwy).
hei, rwy inne moyn clywed sut aiff pethe 'fyd - dere 'nôl a rhoi gwbod, plîs!

Sarah said...

Roedd gormod o amser i siopa 'da fi, Edyta! Dw i'n siwr y prynais ormod o ddillad. Ac esgidiau. Ond nawr 'dw i'n barod. O leiaf mae dillad 'da fi.

Gwybedyn said...

Dw i ar goll:

i) cynhadledd
ii) siopa
iii) dillad

dydw i ddim yn gweld y cysylltiad

o wel, dydy chwilod ddim yn meddwl rhyw lawer am y pethau hyn, mae'n wir...

Malone said...

Rhaid i ni cymryd trueni ar y chwilod! Does dim rhaid iddo boeni am ddillad neis neu 'sgidiau pert. Mae'r un hen "exoskeleton" arno ddydd ar ôl dydd ar ôl dydd . . .

Malone said...

Mae'n fel rhywbeth o Kafka, on'd ydy . . .