Fel Edyta, rydw i'n teimlo'n flinedig iawn.  Mae fy mhenwythnos wedi bod yn brysur iawn.  Ddydd Gwener gorffennais ysgrifennu fy mhapur am NEMSC.  Triais gysgu achos bod rhaid i fi godi yn gynnar iawn ddydd Sadwrn--am bump o'r gloch yn y bore.  Dydw i ddim wedi deffro mor gynnar ers oeddwn i'n dysgu yn yr Ysgol Uwchradd, rydw i'n meddwl. Daliais i'r trên i Brown lle cyflwynais fy mhapur.  Roedd y gynhadledd yn hyfryd.  Cwrddais â llawer o bobl, ac roeddynt i weld yn leicio fy ngwaith.  Am ei bod hi'n Ddydd Gŵyl Dewi, siaradais â rhai pobl am y Gymraeg!  Rydw i'n teimlo'n dawel, ond achos imi fod i ffwrdd dros y penwythnos, mae lot o waith gyda fi yr wythnos hon.
Mae rhaid i fi beidio ag ysgrifennu yn awr.  Gallwn i ddechrau cwynfan!
Sunday, March 02, 2008
Fy mhenwythnos
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
 
 

4 comments:
gwych clywed i dy sgwrs di fynd yn dda. ga' i holi beth oedd y pwnc?
dwi'n falch o glywed roedd dy gyflwyniad di'n mynd yn dda. Hŵre! Fydd yr HCC nesaf, efallai?
Llongyfarchiaudau ar ddy papur di!! Pob llwyddiant yr wythnos hon.
Nawr proffesiynol wyt ti!
Post a Comment