Sunday, March 02, 2008

Fy mhenwythnos

Fel Edyta, rydw i'n teimlo'n flinedig iawn. Mae fy mhenwythnos wedi bod yn brysur iawn. Ddydd Gwener gorffennais ysgrifennu fy mhapur am NEMSC. Triais gysgu achos bod rhaid i fi godi yn gynnar iawn ddydd Sadwrn--am bump o'r gloch yn y bore. Dydw i ddim wedi deffro mor gynnar ers oeddwn i'n dysgu yn yr Ysgol Uwchradd, rydw i'n meddwl. Daliais i'r trên i Brown lle cyflwynais fy mhapur. Roedd y gynhadledd yn hyfryd. Cwrddais â llawer o bobl, ac roeddynt i weld yn leicio fy ngwaith. Am ei bod hi'n Ddydd Gŵyl Dewi, siaradais â rhai pobl am y Gymraeg! Rydw i'n teimlo'n dawel, ond achos imi fod i ffwrdd dros y penwythnos, mae lot o waith gyda fi yr wythnos hon.

Mae rhaid i fi beidio ag ysgrifennu yn awr. Gallwn i ddechrau cwynfan!

4 comments:

asuka said...

gwych clywed i dy sgwrs di fynd yn dda. ga' i holi beth oedd y pwnc?

Malone said...

dwi'n falch o glywed roedd dy gyflwyniad di'n mynd yn dda. Hŵre! Fydd yr HCC nesaf, efallai?

Becky said...

Llongyfarchiaudau ar ddy papur di!! Pob llwyddiant yr wythnos hon.

Sarah said...

Nawr proffesiynol wyt ti!