Saturday, March 22, 2008

Dros y Sul

Rydw i wedi bod yn cwyno am y tywydd oer a gwyntog ym Moston y penwythnos 'ma, ond mae'n ymddangos nad all y tywydd ym Moston gymharu â'r tywydd diflas yng Nghymru dros wyliau y Pasg eleni. Beth yw "yucky" yn Gymraeg?

Hoffwn i ddymuno gwyliau hapus i bawb. Os rydych chi'n teithio dros y Sul, gobeithio y bydd eich taith yn hyfryd a diogel. Os rydych chi'n dathlu'r Pasg, dymunaf i Basg Hapus i chi. Dydw i ddim yn dathlu'r gwyliau, ond rydw i wastad yn gwerthfawrogi esgusion i fwyta llawer o siocled a melysion!

7 comments:

Gwybedyn said...

Pasg hapus i tithau hefyd, Kasi - diolch am y dymuniadau. Clywais fod tywydd eithaf ych-a-fi a diflas yng Nghymru, hefyd. Gobeithio fod pethau'n well yno yng Nghentyci!

Mwynha di'r siocled!

asuka said...

wel, dw i fan'ma ym mangor, ac mae'r tywydd yn weddol da - eira ar yr wyddfa, houlwan drwy'r ffenast.

Emma Reese said...

Ti yn byw ym Mangor rŵan, asuka? Ers pryd? Dim yn Efrog Newydd?

asuka said...

rwy'n aros ym mangor tan fis mehefin, er bod 'mhriod, 'nghath a fy 'mhethau i gartre' yn efrog newydd! ddiwedd ionawr y cyrhaeddais i, felly sa' i yma am amser hir iawn, ac mae'n braf cael bod yng nghymru am sbel!

cefais i sgwrs mewn siop ddoe byddet ti 'di joio. A = fi, B = merch y siop.
A: 'sgynnoch chi ddim wîe heddi?
B: dim be??
A: wîe.
B: be???
A: ŵy-iau!
B: ewww, wŷa!! na, sori.
:)

Gwybedyn said...

Mae hynny'n f'atgoffa i o pan fûes i'n gweithio tu ôl i'r bar yng Nghlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. (A: fi; B: merch oedd eisiau diod)

A: Be gei di?
B: Rym a Côc.
A: Ti isie iâ?
B: Be'?
A: Ti isie iâ ynddo fe?
B: Be'?
A: (gan ddangos iâ iddi) Iâ.
B: O, rhew, ia? Ia, plîs.

Emma Reese said...

Bues i ym Mangor y llynedd yn mynychu'r ysgol haf yn y brifysgol am wythnos. Mi ges i ymarfer corf da gan gerdded o gwmpas y dre.

Be wyt ti'n wneud yno?

Becky said...

Rydw i'n meddwl y bydd y tywydd yn neisach yr wythnos hon. Bydd hi'n gwanwyn yn fuan. Dalia, Kasi!!