Friday, March 21, 2008

Chwyldro'r Chwilod

Buom yn trafod ychydig ar hanes yr iaith yn y dosbarth - sefydlu S4C, Gwynfor a Chymdeithas yr Iaith.

Rhaid, wrth sôn am Gymdeithas yr Iaith, ystyried cyfraniad Saunders Lewis i hanes Cymru'r 20fed ganrif, a does dim diwrnod amhriodol ar gyfer ei ddwyn i gof.

Ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol mae lluniau, ffeiliau sain a hefyd gopi llawn o'r ddarlith dyngedfennol Tynged yr Iaith.

"Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo".

Vive la revolution!

1 comment:

asuka said...

da iawn. diolch am y dolenni.
p'un oedd y cynta' i wisgo'r "do" 'na, tybed - y fe neu'r cadeirydd mao?