Monday, March 31, 2008

cleveland


fel y bydd sawl un ohonoch chi'n gwybod yn barod, byddwn ni'n symud i fyw mewn tref fach jest tu fas i cleveland, ohio ym mis awst.
rwy newydd fod yn darllen taw cleveland yw'r ddinas drydedd fwyaf... ar ddeg... ar hugain... yn yr unol daleithiau. dinas fach felly - ond un fwy na baltimore lle ro'n ni'n arfer byw o leia'!

3 comments:

Emma Reese said...

Mi fyddwch chi'n drigolion Canolbarth felly. Croeso mawr!

asuka said...

diolch iti am y croeso - byddwn ni'n gymdogion! (ond rwy'n casglu wrth edrych ar y map fod 'na dipyn o bellter rhwng gogledd ohio ac oklahoma!)

Gwybedyn said...

Mae dinas fawr yn fwy na chasgliad o adeiladau. Mae'n lle sy'n llawn cysylltiadau. Ar ei symlaf wedd, gall cysylltiad fod yn llwybr feiciau sy'n cysylltu cymdogaeth â'r dŵr, neu'n llinell bysys sy'n cysylltu pobl â'u swyddi. Ar ei fwyaf elfennol gall cysylltiad fod yn lle a gaiff ei rannu - plaza dinesig, parc lleol, mudiad cymunedol neu siop goffi - lle sydd, drwy gysylltu pobl â'u gilydd , yn creu'r ymdeimlad o 'fro' ac o berthyn - yr endid sgwarnoglyd a hoedlog hwnnw sy'n cael ei alw gennym yn "gymuned".

Mae Cleveland yn ddinas fawr sy'n llawn cysylltiadau - mae'n gymuned sy'n tyfu ac yn esblygu, yn llawn bywyd ac yn llawn addewid, dinas lle y gall pob un gael hyd i'w filltir sgwâr.