Tuesday, February 19, 2008

Hmmm


A dyna oedd newyddion da. Clicio draw i wefan BBC Cymru a gweld fod Texas Radio Band wedi gwneud sesiwn gyda Huw Stephens a recordio nid un, nid dwy, ond tair cân newydd sy' ar gael fan hyn.

Nawr 'te - beth i'w ddweud am y caneuon hyn? Wn i ddim, a dweud y gwir; fydda' i byth yn darllen cylchgronau cerddoriaeth bop, felly does gen i ddim o'r geirfa i ddisgrifio miwsig. Eto mae'n amlwg fod 'na dipyn o wahaniaeth rhwng y rhain a chaneuon TRB 'rwy'n gyfarwydd â nhw. Cynnyrch eithaf indie-pop-minimalaidd sydd fan hyn, ond ar y gwrandawiad cyntaf mae ef efallai tipyn bach yn undonnog ac ailadroddus.

Mae tinc o hiwmor cerddorol - dwed- Gruff Rhys neu Euros Childs i'w ganfod yma, mae'n wir, ond ar wahân i 'Clwb Caffi Bar' (o bryd i'w gilydd yn ystod y gân), rhaid aros a gobeithio y tyfant arnaf ychydig yn rhagor, gan ddal i fwynhau egni gwych y caneuon cynharach.

No comments: