Monday, February 18, 2008

Triwch _hwn_ ar, felly!



Hmm, efallai nad oedd Cofi Bach at eich dant chi, ond sgwn i a fydd yn well 'da chi gerddoriaeth Gwyneth Glyn.

Os nad ych chi'n licio hon mi wna' i fwyta fy nghoesau - bob un o'r chwech.

Cliciwch i gael clywed darnau o ganeuon oddi ar albwm gwych, hudolus, swynol, morol, pysgotlyd, hyfryd, ci-bach-yn-d'arffed-lyd 'Tonau'

Mae adolygiad o'r albwm i'w glywed fan hyn.

Mae'n amhosibl cytuno gyda barn y ddau 'feirniad' am fod un ychydig yn dwp a di-chwaeth, a'r llall heb wrando rhyw lawer ar yr albwm, ond mae sylwadau Dafydd Du, y cyflwynydd, yn agos iawn at y gwir pan mae'n dweud taw dyma un o'r pethau mwyaf arbennig i ymddangos yn yr iaith Gymraeg ers tro byd.

Cerddoriaeth wych, geiriau cain, hetiau hardd a physgod hefyd!

Be' chi'n aros am!?

8 comments:

asuka said...

beth yw hwnna sy'n hongian tu 'nôl iddo fe? bwnsiad o fananas?

Malone said...

cwestiwn diddorol - Mae hwnna'n edrych fel pysgod i fi. Pysgotwr yw e, on'd ydy?

asuka said...

dyna fe i mewn ar ôl noson galed ar y môr ac yn setlo i lawr i wylio ychydig o deledu, gan hongian ei fwnsiad o bysgod ar eu stand arbennig nhw tu ôl i'r soffa.
falle taw mantell lamp yw hi, wedi'i llunio mas o bysgod.

Malone said...

Dwi'n hongian fy mwnsiad o bysgod ar y stand arbennig tu ôl i'r soffa pob dydd hefyd! (mae'r gath yn dwlu ar y stand pysgod!)

Ble mae'r cerddoriaeth? Dwi wedi methu ffeindio'r ddolen.

Gwybedyn said...

Mae hi yno - o dan y geiriau "Gwyneth Glyn" yn y paragraff cyntaf, ac o dan y trydydd paragraff i gyd.

Gwybedyn said...

Beth am gynnig enwau i'r ci bach yng nghôl y pysgotwr, os nad oes chwant ar neb roi enw i'r gath fach?

(Neu i'r pysgod sy'n crogi y tu ôk iddo!)

Malone said...

ychydig o sarcasm yna . . .

Dwi wedi dwlu ar Gwyneth Glyn ers llawer dydd . . . dwi'n hoffi "Cân y Siarc" yn arbennig.

Gwybedyn said...

'Dw i newydd fynd at www.sebon.co.uk i brynu copi newydd o'r albwm 'Tonau'.

Ac mae hon yn albwm y mae'n werth ei chael 'go iawn' (yn hytrach na chydag iTunes neu wedi'i fôr-ladrata) nid yn unig achos bod y geiriau i gyd mor wych (ac yn werth eu cael yn y llyfryn) ond bod yn y llyfryn luniau hyfryd o 'sgotwyr a phlant bach.