Tuesday, February 19, 2008

Brwm-Brwm gyda Budgie ♫ ♫



Gyda'r holl drafodaeth am faniau rai diwrnodau yn ôl, mae'n rhoi cyfle da inni dalu gwrogaeth i un o'r faniau gorau welodd Cymru erioed, sef Breadfan y grwp anhygoel yna, Budgie.

Ie - un o fan(d)iau gorau Cymru! Bwm-bwm, brwm-brwm!

♫ ♫ ♫

Fel mae'n digwydd, yng Ngwlad Pwyl oeddwn i pan ddes i ar draws Budgie, yn aros gyda theulu yn Klodzko. Yn ystod y cyfnod comiwnyddol byddai tad fy ffrind yn rhoi ei speakers ma's ar falconi'r fflat (ryw ddeg llaw i fyny mewn blok) a blastio cerddoriaeth 'subfyrsif' orllewinol dros y lle. Roedd pob twll a chornel yn y fflat yn llawn o hen gasetiau a vinyls, y rhan fwyaf yn bwtlegs a ddaethai i mewn o'r USSR, ac yn eu plith wrth gwrs, Budgie. Mae'n dda meddwl am Gymru fach yn cymryd rhan yn y broses o ennill 'rhyddid' i feddyliau Pwylaidd!

Ac aeth Budgie draw sawl tro, i gynnal cyngherddau. Des i ar draws nifer o bobl oedd yn gwybod dim am Gymru ond Budgie! - rhyw fath o Catherine Zeta ar gyfer yr 80au!

6 comments:

asuka said...

nawr dyna fan ichi! ond un ac iddi lawer mwy na thair olwyn, wedwn i. chwech o leia', neu ddeunaw hyd yn oed! digon o le yn y fredfan 'na i fi, rhys a phawb arall.

asuka said...

rwy'n leicio gowen cŵl y boi sy'n canu'r gitâr. (neu ife gitâr bas yw hwnna? beth bynnag - yr offeryn 'na sydd â'r tannau.)

Nic said...

Gwych! Mae Budgie dal i fynd - es i eu gweld nhw ym Mhafiliwn Patti, Abertawe rhyw 3 blynedd yn ôl. Wnaethon nhw fy rocio cymaint oedd rhaid i mi fynd allan i chwydu.

(Sori, gormod o fanylion, falle.)

Dim ond Burke Shelley, y canwr, sydd ar ôl o'r lein-yp gwreiddiol, ond so fe wedi newid dim ers 1974.

asuka said...

prin digon o fanylion :)

Gwybedyn said...

Hei - ac maen nhw'n gigio yr wythnos hon:

Australian Tour Dates for 2008
Saturday 16th February - The Tivoli, Brisbane.
Tuesday 19th February - Metro Theatre, Sydney.
Wednesday 20th February - The Forum, Melbourne .
Thursday 21st February - The Gov, Adelaide.
Saturday 23rd February - The Capital, Perth.

asuka said...

mae'r gyngerdd yn sydney wedi digwydd yn barod - 'na drueni! gallwn i fod wedi gweud wrth bawb gatref amdani - rwy'n siwr byddai 'mrawd-yng-nghyfraith i 'di mynd.