pwy arall sy'n arfer bwyta croen ffwythau ciwi? mae'n well 'da fi gyda'r croen na hebddo.
mae e ychydig yn sur, sy'n taro i felyster y cnawd i'r dim - heb sôn am y ffaith fod e'n llawn maeth fflwfflyd!
Wednesday, February 20, 2008
dyna lle mae'r maeth i gyd!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
7 comments:
hei - betia' i chi taw dim ond fi sy'n bwyta crwyn bananas!
wyt ti o ddifri'? darllenais i faniffesto yn awstralia flynyddoedd yn ôl honnodd y gallai bwyta crwyn bananas ddatrys problemau'r byd, ac rown i'n nabod rhywun bryd 'ny aeth ati i ddilyn y deiet 'ma. ond rwy'n cofio iddo ei wneud e'n dost ofnadwy. so ti'n cael y fath broblemau?
wyt ti'n gweld y 'rash' melyn rhyfedd 'na sy'n lledu dros fy nghefn!? Falle bod 'na gysylltiad er nad oes modd bod yn hollol sicr.
mae'n debyg!
dylwn i adrodd stori'r maniffesto hwn. mae e'n un o'r llyfrau gorau wy 'di darllen erioed.
diolch am y fideo budgie, gyda llaw. er na dw i byth yn gwrando ar fiwwsig, rwy 'di wylio e sawlgwaith gyda ffleser!
be' sy' gen ti yn erbyn cerddoriaeth?
dim byd - so ni 'di cael ein cylwyno i'n gilydd hyd yn oed!
Post a Comment