Mi es innau i weld y ffilm hon neithiwr. Roeddwn i'n disgwyl llawer ond ces i siom.
Roedd Daniel Day Lewis yn dda, mae'n wir (fel yr actio ar y cyfan) - ei olwg a'i leisio (yn enwedig) yn wych, ond y teimlad ges i oedd na chafodd ef ddim byd gwerth chweil i'w wneud â'r rhain.
Sgriptio llac, plot gwan a naratif anniddorol. Gadewais y sinema yn difaru imi gerdded i mewn.
Wednesday, January 16, 2008
Mi fydd Gwaed
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
beth ddigwyddodd i wyneb daniel day lewis? roedd e'n arfer bod mor olygus.
Mae 'Daniel - ew! - Day Lewis' yn gynghanedd, a'r enw ei hun yn cynganeddu â "Dyn a wêl olau dau leuad"
Nid bod hynny'n golygu dim, nac yn swnio'n rhy dda, chwaith.
ac mae 'Mi fydd gwaed' yn cynganeddu a^ 'mwy o fedd - gwych!'
eto, ddim yn golygu dim.
Post a Comment