Tuesday, January 15, 2008

yr holldad sy 'ma


aethon ni i'r opera neithiwr a'i joio'n fawr iawn. rwy'n dwlu ar die walküre - maeddi mor wirion mewn ffordd, fel cartŵn bore sadwrn gyda miwsig hardd iawn, ond mae iddi gymaint o awyrgylch.
roedd golwg wych ar y cynhyrchiad 'ma, y setiau, gwisgoedd ac ati. dyna oedd y falcyriaid yn rhedeg drwy'r mynyddoedd fel merched ar daith duke of edinburgh ac roedd y tân yn y diwedd yn waw. roedd wotan yn arbennig o dda ymhlith y perfformwyr yn ein tŷb ni, ac rown i'n leicio sieglinde hefyd.
roedd siegmund jyst yn gross - fyddwn i ddim yn cysgu gyda fe 'sen i'n chwaer iddo fe.

1 comment:

Malone said...

Mae'n swnio fel lot o hwyl - dim ond $15 hefyd! Dwi'n genfigennus iawn!