Wednesday, January 16, 2008

!

rwy'n hedfan i gymru ymhen tri diwrnod! dim llety, dim arian, dim clem!

13 comments:

Gwybedyn said...

Gobeithio bod gen ti docyn!

asuka said...

oes - ac achos hynny, dim arian!

asuka said...

rwy'n gobeithio treulio nos sul gyda 'mrawd i sy'n byw yn rhydychen a chyrraedd bangor ddy' llun. treia' i flogio 'mhrofiadau ym mangor a tsieco'r blog er mwyn cadw mewn cysylltiad 'da phawb fan hyn - mi wna' i!

Gwybedyn said...

wel... mae cael llety rhad yn Llundain yn ddim problem. Os wyt ti eisiau rhai syniadau, rho wybod. Rwy' wedi aros mewn sawl hostel da, ac wedi cael profiadau da iawn mewn gwestai digon rhad hefyd.

Ti'n gwybod hefyd fod ffrindiau 'da ni dros y lle, os oes angen lle i aros arnat yng Nghymru.

Felly:

i) dim arian
ii) dim llety

= dim problem

iii) dim clem

wel, mi ddysgi di! ;)

Gwybedyn said...

gyda llaw - leicio'r TLl ar ôl 'gyda' :) - ti'n mynd yn posh arnom! ;)

Malone said...

Pob lwc, Asuka! Bydd gen i ddiddordeb mawr yn dy anturiau di. Gobeithio fyddet ti'n gallu postio yn aml.

Gwybedyn said...

hwyl ar dy daith, Asuka, a chofia ni at bobl da Bangor.

byddwn yn disgwyl am dy n-e-geseuon.

Malone said...

"Dwi'n hoffi'r "stat counter" Chrzz! Hwyl!

asuka said...

diolch o galon, szch! os fydd angen galwa' i ar dy gysylltiadau di bendant! i ddechrau off, hostel yng nghaernarfon amdani - wedyn gwelwn ni. bydd hi'n braf gweld 'mrawd bach i ar y ffordd 'ta waeth.
diolch am y eglurhad ynghlych enfysau gwynion. diddorol. gelliff enfysau cyffredin fod bron yn grwn hefyd os bydd yr haul yn agos at y gorwel tu 'nôl i ddyn - heb os mae'r enfysau gwynion 'ma'n gweithio'r un ffordd. nawr rwyf fi am gweld un!
hei - cytuno bod y counters yn wych ond beth yw'r gwahaniaeth rhynddyn nhw? beth mae'r ddau yn gyfrif? rwy'di bod yn treio weithio fe mas.

asuka said...

"*mynd* yn posh"?!
er pa bryd nad wyf yn posh?

Gwybedyn said...

hei - yr unig ffordd inni wybod sawl un sy'n galw heibio fydd inni gyfri' ein hymweliadau ni'n hunain â'r safle, rhoi gwybod i'n gilydd a thynnu'r rhif yno oddi ar y rhif(au) ar y mesurydd(ion).

Wn i ddim pam fod dwy rif yno, rhaid cyfaddef!

Sa' i wedi cael ffordd i ddadansoddi 'traffig' fesul defnyddiwr/cyfrifiadur eto, ond mae'n rhaid bod ffordd (sa' i 'di edrych yn bell iawn eto)

asuka said...

ife ti sgrifennodd y côd?

Gwybedyn said...

nage - does gen i 'mo'r fath sgiliau.

hei - ga' i gymryd y cyfle i annog rhagor o ddefnydd o 'deuddydd' a 'tridiau'? Mi ân nhw'n angof os 'chân nhw mo'u defnyddio.