Monday, October 29, 2007

bant â ni!

One thing was certain, that the white kitten had had nothing to do with it: - it was the black kitten's fault entirely. For the white kitten had been having its face washed by the old cat for the last quarter of an hour (and bearing it pretty well, considering); so you see that it couldn't have had any hand in the mischief.

The way Dinah washed her children's faces was this: first she held the poor thing down by its ear with one paw, and then with the other paw she rubbed its face all over, the wrong way, beginning at the nose: and just now, as I said, she was hard at work on the white kitten, which was lying quite still and trying to purr - no doubt feeling that it was all meant for its good.

But the black kitten had been finished with earlier in the afternoon, and so, while Alice was sitting curled up in a corner of the great arm-chair, half talking to herself and half asleep, the kitten had been having a grand game of romps with the ball of worsted Alice had been trying to wind up, and had been rolling it up and down till it had all come undone again; and there it was, spread over the hearth-rug, all knots and tangles with the kitten running after its own tail in the middle.

(from Lewis Carroll, Through the Looking-Glass)

5 comments:

Gwybedyn said...

bant a^'r cart! pythefnos cyn cyflwyno, a phob math o hwyl yn ein disgwyl ar y ffordd. Be' ddiawl yw 'worsted'?!

Aran said...

Helo,

Ga i ofyn er gwybodaeth pam bod y cyfraniad hwn yn y Saesneg? Dw i wedi rhestru'r blog yma ar blogiadur.com, sef casglydd ar gyfer blogiau Cymraeg, ac yn ceisio sicrhau mai dim ond y Gymraeg sydd ar y Blogiadur.

Os dw i wedi camddeall ac mae hwn yn flog dwyieithog, byddaf yn ei gynnyws yn hytrach yn blogcymru.com - felly byddwn yn ddiolchgar iawn pe bae modd i rywun adael i mi wybod os mai blog dwyieithog neu un Cymraeg ydy o...:-)

Diolch,

Aran

Gwybedyn said...

Byddai wedi bod yn well 'tasech chi, Aran, wedi gofyn i ni yn y lle cyntaf, cyn cynnwys y blog ar eich peiriant metaflogol! Diolch ichi am ein tynnu oddi yno, wap!

Blog i ddysgwyr yw hwn yn y bo^n, ac er nad ydyn ni eisiau gorfod ei wneud yn flog preifat, byddai'n well gennym beidio a^ chael yr holl fyd blogyddol Cymraeg yn gweld y cyfan (heb ddod draw i ddweud helo, wrth reswm) - ffordd i greu swildod a lleihau'r chwant i gyfrannu yw honno.

Ynghylch yr iaith - ein blog bach ni yw hwn - blogiwn yn Gymraeg, Saesneg, Pwyleg, Gwyddeleg, Almaeneg, Ffrangeg - prydferthwch dewis!

I ymwelwyr cyson y datgelir y cyfrinachau!

chrrrrrsz!!!

Gwybedyn said...

(er nad y'n ni wedi gwneud rhyw lawer o flogio yn yr ieithoedd hynny... eto!

zaczynamy po polsku za jakis czas, co?

tiocfaidh la an Ghaeilge! :)

vive la differance!

ausgezeichnet - alles hier ist moeglich bei dem HarvardCymraeg!

Aran said...

Rwy'n ymddiheuro os nad oeddech chi'n awyddus i gael eich rhestri yn y Blogiadur - gan amlaf, mae pobl yn cwyno am fod nhw heb eu cynnwys, felly o leiaf mae eich cwyn chi'n wahanol. Rwyf wedi eich tynnu rwan, sydd yn taro fi fel bechod, ond os mae felly dach chi'n teimlo, felly dach chi'n teimlo.

Rydych wedi camddeall os ydych chi'n meddwl fy mod i'n credu bod unrhyw beth yn well neu'n waeth am ddefnyddio unrhyw iaith benodol. Serch hynny, pwrpas y Blogiadur ydy i greu awyrgylch Cymraeg, peth prin iawn arlein ac yn y byd bob dydd, yn anffodus. Dyna pam fues i mor hy ag i ofyn yn gwrtais beth oedd y drefn ar eich blog chi.