Tuesday, February 10, 2009

Y Gyfnewidfa Lên a rhai pobl rhyfedd


Am fod gen i gysylltiad o bell â materion llenyddol Cymraeg rwy'n derbyn ambell i gylchlythyr gan rai cyrff, a'r Gyfnewidfa Lên yn eu plith. Corff yw'r Gyfnewidfa (née 'Llenyddiaeth Cymru Tramor') sy'n hybu cyfieithiadau o waith Cymraeg. Gwaith da, felly, a chlodwiw - da yw codi proffeil y Gymraeg.


Ddoe am ryw reswm aeth pethau'n boncyrs yn eu system ebostio pan halodd un fenyw fach ddiniwed neges atynt yn gofyn iddynt newid ei manylion postio. Aeth ei neges at bawb ar y rhestr bostio ac mi wylltiodd hynny rhai pobl llengar, diwylliedig ac academaidd.

Daeth negeseuon o bob cwr o'r byd i mewn yn cwyno, yn cecru, yn mynnu, yn hawlio. yn gwaeddu (ac ambell i un yn gofyn yn bolèit) am gael eu dileu o'r rhestr. (Gwn oherwydd daeth pob neges a gafodd ei hanfon at bawb ar y rhestr, sef rhyw gant i gyd, ond doedd gan neb o'r rhain y synnwyr i aros nes ei bod hi'n oriau gwaith y diwrnod wedyn, pan fyddai rhywun yn y Gyfnewidfa Lên yn dychwelyd i'r swyddfa).

Ond y peth gwaethaf am hyn i gyd oedd nad y 'spam' ynddo'i hun oedd yn gwylltio llawer o'r bobl diwylliedig, ieithyddol, llengar, academaidd hyn, ond y ffaith ofnadwy o hyll a chreulon ac annynol a ffasgaidd fod rhai o'r negeseuon hyn oedd yn cyrraedd eu hìnbocsys drwy gamgymeriad yn Gymraeg. Wele neges enghreifftiol gan Laura R. (wn i ddim pwy yw hi):
what on earth is this? i don't speak welsh.
unsubscribe me.
[...]
Ac un siomedig iawn a ddaeth gan Adriano V., darlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: 
"Dear executive director, Please remove me from your mailing list. Incidentally I very much doubt that this ‘Welsh’ approach does anything to win supporters."
Dyna'i dweud hi, felly, ym marn y Dr V., beth bynnag - os ydych chi am hybu'r Gymraeg, peidiwch da chwi â chymryd "Welsh approach" at y gwaith - mae'n bosibl felly y bydd pobl eraill yn gorfod dioddef ei gweld hi o bryd i'w gilydd! (Gobeithiwn nad yw'r Dr. V. sensitif, druan, yn gorfod gweld na chlywed gormod yn ei swydd fel darlithydd yn y coleg ger y lli).

5 comments:

Simon Dyda said...

:D

Rhys Wynne said...

Mae'n reit brawychus gweld weithiau beth yw agwedd rhai bobl 'addysgiedig' tuag at y Gymraeg. Trist

Emma Reese said...

A beth ydy diwedd y stori?

Szczeb said...

Diwedd y stori fydd bod pawb yng Nghymru (yn Gymry, Saeson ac Eidalwyr) yn derbyn nad oes raid teimlo bod dwyieithrwydd yn beth ymosodol a pheryglus.

Eto, mae rhai cannoedd o dudalennau i fynd eto!

teod-karv said...

Cefais i holl negeseuon y Gyfnewidfa Lên, ac ’roedd yn boendod. Mae'n ddiddorol gweld ymateb pobl, er hynny. Mae Adriano V... ar staff Prifysgol Aber ac mae ei agwedd at yr iaith yn eithaf nodweddiadol o'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n dysgu yma, ’rwy'n ofni. Ychydig iawn o academyddion sy'n dysgu'r iaith. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, penderfynodd yr awdurdodau'r Brifysgol dalu pobl o'r tu allan i oruchwylio'r arholiadau, ac ’nawr mae modd sicrhau bod y cyfarwyddiadau ar ddechrau'r arholiadau yn cael eu darllen y Gymraeg. Mae llawer o'r rhain yn bobl ddi-Gymraeg ond yn fodlon dysgu sut i ddarllen y cyfarwyddiadau. Nid oedd odid neb o'r staff academaidd yn fodlon ymdrechu i wneud hynny pan oedd disgwyl iddynt hwy oruchwylio... dim ond y Cymry ac un neu ddau o ddysgwyr.