hei, oes rhywun yma yn ddigon clyfar i allu addasu cyngor zoë aderyn cân dro yn ôl er mwyn inni newid y dyddiadau ar y blog 'ma yn gynllun cymraeg?
byddai hyn'na'n wych downtsia-thinc? (er 'mod i'n eitha' hoff o'r rhai japaneg, ffrangeg a phwyleg!)
Sunday, November 09, 2008
pwy sy'n nabod eu html?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
15 comments:
Dim yn deall y cwestiwn. Pwy? Be?
ie, bach yn anodd ei ddilyn, sori!
dyma 'nghwestiwn: ffordd ti'n cael dangos y dyddiadau ar flog blogger yn y gymraeg?
mae zoë wedi ei wneud e ar ei blog hi. ond mae'n debyg iddi hi iwiso cyngor aled ar ei blog e, ac mae interface blogger 'di newid cymaint ers pryd 'ny fel na alla' i weld ffordd mae iwsio'r cyngor 'ma erbyn hyn.
Byddai'n rhaid newid i'r templed clasurol
ewwwww - gwela i. rhywbeth i drafod gyda'r lleill yma. ond o leiaf ŷn ni'n deall nawr be sy rhaid inni drafod. diolch am ddarn o wybodaeth werth ei chael felly!
hei, 'suk - wyt ti'n gwybod pam fod ffrwd y chwaer-flog wedi torri? Mae'n dangos "Byw mewn swigen" o hyd, ac rwyt ti wedi gwneud tipyn ers hynny.
nagw - 'sdim clem 'da fi. rown i 'di sylwi ar hyn'na 'fyd.
sa' i'n cofio newid gosodiadau fy mlog i mewn ffordd a fyddai'n effeithio arno neu ddim arall. os na allai drwsio fe, caf i wared arno. mae'n sili fel arall. 'sneb yn moyn gweld john travolta's silly mug bob tro.
od iawn - roedd y teclyn 'na'n gweithio neithiwr. ond heddiw mae e 'di mynd 'nôl i ddangos john travolta unwaith 'to.
Does mo rhaglen Lisa Gwilym ar ddydd Sul. Pryd cawn ni glywed y cyfweliad?
Cwestiwn o 'nunlle, braidd, Emma...
Buodd rhaglen Lisa Gwilym heddiw, fel mae'n digwydd.
O sori, dôn i ddim yn sylwi bod 'na "C2 Lisa Gwilym" a "Lisa Gwilym." Newydd wrando ar y cyfweliad. Rhaid i mi wrando arno fo sawl gwaith nes i mi ddeall mwy. Pob llwyddiant ar y cwrs Cymraeg.
aha. rwy'n deall. rho wybod os wyt ti wir eisiau "deall mwy" ^^
Oes! Mae gen i un cwestiwn sydyn ond wyt ti'n fodlon trafod petha personol yma?
w^. os yw'n _bersonol_... ^^
cei ddefnyddio fy nghyfeiriad ebost, felly, os wyt ti eisiau: szczeb2@gmail.com
wps.
ie, fi oedd hwnnw.
ie, cyfweliad gwych - rhaid inni ffeindio'r boi 'ma. tybed ai e yw'r "aled klion" oedd ar y radio ym moston 'nôl ym mis mawrth? boi deallus mae'n eglur! ^^
Post a Comment