o glicio ar y llun uchod, ymddengys testun maint llawn mewn ail ffenestr. fel arall, cewch fynd at y ffynhonnell:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Llawysgrif Gutun Owain (LlGC 3026C), t. 37." Llyfrgell Genedlaethol Cymru, http://digidol.llgc.org.uk/METS/Gut00001/frames?div=41&subdiv=0&locale=cy&mode=reference
y llyfrgell piau'r hawlfraint, wrth reswm.
Friday, September 19, 2008
Buchedd Martin Sant
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
62 comments:
Beth wnawn ni, felly - dechrau drwy drawsgrifo rhyw ychydig?
ie, gan gadw at doriadau llinell y llawysgrif, plîs.
Felly, i ddechrau, dyma'r frawddeg gyntaf. Dydw i ddim cweit yn gallu darllen un o'r geiriau (neu efallai mwy nac un! - cawn weld a gytunwch).
Marthin Sant oedd
esgob a chonffesor
i grist ac a hanoedd o sabaria un
o ddinessydd gwlad panonia ac
yn yr eidal [...] i magwyd ef[.]
szczeb, ife "tisin" sy'n mynd yn y bwlch? enw lle? (er nad wy'n deall ffordd mae'r gystrawen yn gweithio...)
dyma fy nghynnig i ar yr ail frawddeg:
Ai rieni ef hagen yr yw bod
yn beganiaid annffyddlon yr
oeddynt yn anrrydeddus o
vrddas bydol[.]
re: "tisin" - mae hynny'n gwneud rhywfaint o synnwyr, Asuka - da iawn; rwy'n cael deall taw yn "Ticinum" yng Ngâl (Pavia heddiwr) y'i magwyd [?>'tisin', o golli'r terfyniad a thrawsgrifo'r ynganiad canoloesol?]
re: y frawddeg ddiwethaf - mae'n gwneud synnwyr unwaith i ni ddeall taw ffurf ar y rhagenw blaen III lluosog yw "yw" (= 'eu') [gw. GMW t. 53).
Ga i chwarae'r gêm hefyd? Dyma fy ngynnig:
Kanis i Dad yn
gyntaf a uu varchot urddol ur:
ddallol(?) As wedy hynny yn
gapten ar varchogion yntau.
Ym, dwi ddim yn sicr am "ddallol." Oes syniadau eraill?
Asuka - rwy'n gweld nawr nad at gystrawen yr ail frawddeg roeddet ti'n cyfeirio; sori am y dryswch!
Rwy'n cytuno, felly - mae'n od i ddweud, "Yn yr Eidal Tisin y magwyd ef", on'd yw ef? Mae fel petai angen cromfachau neu rywbeth: "Yn yr Eidal (Tisin) y magwyd ef." Efallai taw glos yw "Tisin", a gafodd ei ymgorfforu wrth gopio?
Pat: beth am "varchoc urddol urddassol"? Ac ife "g" sy' gyda ni wedyn: "A gwedy hynny..."?
Doh! Wrth gwrs - dwi'n teimlo mor dwp. Diolch chwilen. :)
Dyma hwyl!
diolch szczeb,
"tisin" fel glos o ryw fath...
mae'n gwneud synnwyr - er nad wy'n siwr ai llythrennol 'ta trosiadol yw'r synnwyr mae'n ei wneud! y pethau amlycaf a all fod y rhai mwyaf tywyll weithiau.
ocê, 'te. pwy sy moyn taclo'r frawddeg nesa'?
Marthin ym ieuengtid a ym
arverodd a ddwyn aruau dan
Gonstans Amerod Ruvani.
sori, fydda i'n cau fy 'ngheg i nawr. ;)
Da iawn, wir! 'Dw i wrth fy modd â'r ymadrodd 'ymarfer o ddwyn arfau' ac mae'r gair "Amerod" yn wych, on'd yw ef!
Gawn ni ail-ddosbarthu'r minims a darllen "yni [yn ei] ieuengtid" a "Ruvain"?
Os felly, cawn y testun fel hyn hyd yma:
Marthin Sant oedd
esgob a chonffesor
i grist ac a hanoedd o sabaria un
o ddinessydd gwlad panonia ac
yn yr eidal tisin i magwyd ef[.]
i rieni ef hagen yr yw bod
yn beganiaid annffyddlon yr
oeddynt yn anrrydeddus o
vrddas bydol[.] Kanis i Dad yn
gyntaf a uu varchot urddol ur:
ddassol A gwedy hynny yn
gapten ar varchogion. Yntau
Marthin yni ieuengtid a ym
arverodd o ddwyn aruau dan
Gonstans Amerod Ruvain.
Nawr 'te - mae eisiau help arna' i gyda'r darn nesa'; dyma'r hyn sy' gen i hyd yma:
Ac wedy hynny dan ...ianus
... nid oi vodd kanis oi vab
olaeth Rybucho gwasanaethu
duw yr oedd
Help!!
rwy eisiau iddo fe weud "Iulianvs Sissar" (h.y. Caesar?).
ond mae'n edrych fel "sulianvs Sissar," on'd yw e?
oes enghreifftiau eraill o "i" fras o gwmpas inni eu cymharu â'r llythyren sydd fan hyn?
A phann oedd ddec
blwydd o oedran ef a aeth yr
eglwys o anvodd i rieni i geisio
bedydd[.]
sori - ces i frawddeg eitha' rhwydd!
Ie - mae hynny'n edrych yn iawn.
Ond rwy'n dal i bendroni ynghylch y "rybucho"[?] yna...
gyda llaw - dim ond yn awr rwy'n sylwi nad ar ddechrau brawddegau mae'r llythrennau cochion yn cael eu defnyddio - diddorol.
ble nad oes modd dodi atalnod cyn llythyren goch?
Bydd rhaid aros ychydig eto, rwy'n credu, i fod yn sicr; roeddwn i wedi taflu golwg glou dros rhai o'r brawddegau sydd i ddol - mae'n eithaf posibl dy fod di'n iawn. Ond o ran diddordeb eithriadol, co'r holl goch sydd ar waelod yr ail golofn.
"rybucho"
dyna mae'n weud - 'sdim dwywaith amdano fe.
beth yw'r broblem ti'n gweld yna, szczeb?
dw i ddim yn gyfarwydd â'r gair - oes un ohonoch chi'n deall ei ystyr?
"puchiant" = "chwant" neu rywbeth, rwy'n credu.
felly, rîli, rîli moyn yw ysytr "rhybucho", sbo!
ocê, am fod 'narn diwethaf i mor fyr, rwy'n mynd i wneud y frawddeg nesa' hefyd! (^_^)
Ac yn an ryvedd yr
awr honno ef a droes i veddwl
mewn gweithredoedd duw yn
gymin a chwynychv o hono
vyned yr diffaith i benydio i
gorff yni ddevddengmlwydd[.]
aha - da iawn, Asuka - roeddwn i wedi camddeall y frawddeg honno (gan ddarllen "synnu" yn lle "gymin"! A hefyd gwnes i'r un camgymeriad a ti, Pat, drwy ddarllen yr "yni" fel "ym"! Mae hyn yn broses addysgiadol ardderchog!
"puchiant" - waw! gair gwych! Rwy'n gweld fod geiriadur Pughe (sydd ar gael gyda Google Books) yn rhestru llawer o eiriau tebyg, gan gynnwys 'puchio' = 'to sigh, desire earnestly'.
^.^
ie, cytser o eiriau gwych! mae gen i gwpwl o fascicles o GPC yma (pethau rwy 'di eu pigp lan am ddim!), ac fel mae'n digwydd mae prain-puren yn un ohonyn nhw. smo GPC yn awgrymu dim tarddiad i'r geiriau 'ma, gwaetha'r modd.
cytuno'n llwyr, szczeb - mae hyn yn ymarfer da iawn. (rhaid cyfaddef 'mod i'n falch ofnadwy o'm hunan wrth ddarllen y gair "gymin"!) hei, pwy sy'n mynd nesa'?
hei-ho, os yw pawb arall yn cadw i ffwrdd...
Ac
ef a[ ]wnaeth ar hynny edduned
ddigon kadarn pe i oedran nis
llesteiriai eisioes yni vabolaeth
veddwl yr oedd ai vryd ar vyn:
achlogoedd ac eglwysi[,] yr hynn
a gwplaodd yn ddwyvol gwedy
hynny[.]
Dydw i ddim yn siwr am y "pe i oedran nis llesteiriai..." oes gennych unrhyw olau i daflu ar hynny?
diolch szczeb!
ie, sut i ddeall y cymal-pe 'na?
ffordd rwyt ti'n leicio'r dehongliad hwn?:
... "eidduned" a fyddai 'di bod yn ddigon cryf i fynd â'r boi i'r "diffaith" yn wir, oni bai fod e'n rhy ifanc
gewn ni roi semicolon cyn yr "eisioes" hefyd? wi'n leicio semicolons. o(^_^)o
neu golon - wi'n lico'r ddou...
syniad da; tybed sut gawn ni esbonio'r treiglad meddal ar "veddwl"?
oes modd gweld "mabolaeth feddwl" yn gyfuniad:
yr oedd a'i fryd ar fynachdai "yn ei fabolaeth feddwl"? (h.y. "yn ei feddwl ac yntau'n blentyn")?
o-ci-do-ci,
ga' i roi cynnig ar y darn nesa'?
A phann ddoeth gorch:
ynvn i wrth y brenhinoedd i bawb
o veibion yr hen varchogvrddolion
ddyvod i roddi ev llw ai henwav i vod
yn varchogion yn lle ev tadav
mae'r "pan" yn chwith, on'd yw e? rhaid ei gymryd yn gysylltair ar ôl yr "a" 'na, sbo (nid "geiryn", neu beth bynnag rwyt ti eisiau ei alw'r pan sy'n dilyn adferfol), ond sa' i'n gweld prif gymal amlwg ar y gweill...
oes syniadau 'da chi, neu a ddylen ni ddod yn ôl i ystyried hyn nes ymlaen, falle?
Mae'r "pan(n)" ychydig yn od, on'd yw?
Pe tasai gennym gwestiwn cyn y frawddeg hon - "Pann ddoeth y gorchymyn?" (="o ble...") yn byddai'n eglur, am fod defnyddio "pan(n)" yn ymateb i gwestiwn o'r fath yn gyffreding (GMW87). Dydy GMW ddim yn rhoi unrhyw enghreifftiau o "pan" yn digwydd ar _ddechrau_ prif gymal heb fod y cymal hwnnw yn ateb cwestiwn "Pan...?". Mae'n digwydd yn aml mewn cymalau perthynol (e.e. "A gwybot a wnaeth Arthur pan yw hynny a uedylyei Owein"; "Ny wydyem pan oed ti a grogem"; "O vrthdir uffern pan hanoedd y gwyr" - enghreifftiau o GMW s.v. "pan").
Gawn ni ddarllen yn yr ystyr yma, gan ddeall bod y frawddeg wedi'i gwyrdroi o "i wrth y brenhinoedd pan ddoeth gorchymyn..."?
hmmm... rwy wrthi'n treio prosesu'r esboniad hwnna.
fel arall, allai "pan" fod yn edrych ymlaen at "yna" yn "marthin i vab yna a ddalpwyd"?
o bosibl - byddai hynny wedyn yn enghraifft o lythyren goch nad yw ar ddechrau brawddeg.
ond waw! byddai honno'n frawddeg hir i ryfeddu!
byddai.
ac byddai!
beth am wneud y talp nesa' wrth inni ryfeddu, szczeb?
iawn, 'te, dyma dalp arall:
A
thrwy gyhudd i dad ef oedd hynny[,]
yr hwnn oedd yn kenvigennu
wrth weithredoedd da[;]
ac yna
Marthin i
vab yna a ddalpwyd yn bymtheng
mlwydd o oedran[.]
Sylwer fod rhyw atalnod yn y llsgr ar ôl "da" (h.y. cyn "Marthin"). Oes bosibl taw sangiad o ryw fath sydd yma (.i. y darn cyntaf uchod i gyd)?
sangiad - rwy'n leicio'r syniad 'na'n fawr iawn.
dau beth:
1) gwych bod rhwng "bymtheng" a "mlwydd" un o'r pethau 'na sy'n edrych fel colon - i ddangos taw un gair yw e, cyfuniad sy'n rhedeg ar draws y toriad llinell. (cytuno?)
2) cwestiwn. falle nad wy'n deall y frawddeg o gwbwl, ond... ble mae'r geiryn cyn "oedd" yn "a thrwy gyhudd ei dad ef oedd hynny"?
i) ie, cytuno, gwych iawn (cf. "bymthengmlwydd" ac yna yn nes ymlaen "garchar", "gwnai", "?gymin")
ii)colli geiryn. Cymh. I.x "i dad... a uu uarchoc", I.xiii "marthin ... a ymaruerodd", II.viii "Marthini vab yna a ddalpwyd", etc. (lle ceir y geiryn perthynol "a" yn dilyn blaenu'r goddrych) â II.xi "A bodlon uu ef..." (lle hepgorir y geiryn wrth flaenu ansoddair). Ond yn yr achos yma, gweld colli'r geiryn "yr" yr wyt ti, ie? Beth am y frawddeg yn II.xvi "Ar unryw vwyd a lewynt"? Ar wahân i'r rhain, mae'n edrych imi fel bod y defnydd o "yr" perthynol yn eithaf rheolaidd... ond efallai nad yw fy nghrib yn ddigon mân.
ie, ble mae'r "yr"? sa' i'n cofio'r sefyllfa gyfan yn gymraeg canoloesol - ond fel ti, rwy'n cael yr argraff bod ein awdur yn sgrifennu cymraeg modern o ran ei ddefnydd ar eirynnau.
rhyfedd iawn.
(sa' i'n gweld at beth rwyt yn cyfeirio yn "Ar unryw vwyd a lewynt", szczeb. sori! mae "bwyd" yn wrthrych i "llewynt", on'd yw e?)
hmm. wn i ddim. Cawn drafod hynny pan ddown at y frawddeg yna, efallai! ^^
Re: 'Cymraeg Modern'... blas rhyfedd sydd ar rai o'r cymalau hyn, mae'n wir.
Beth yw oed y llsgr?
"[fe'i] lluniwyd rhwng 1488 a 1489" medde LlGC.
nawr rwy'n ysu am glywed ffordd rwyt ti'n deall "Ar unryw vwyd a lewynt"!
dyma'n testun ni hyd yn hyn. (rwy 'di chwarae ychydig gydag "u" a "v", llythrennau breision a bychain ac ati. ^^)
[y golofn gyntaf:]
Marthin Sant oedd
esgob a chonffesor
i grist ac a hanoedd o sabaria vn
o ddinessydd gwlad panonia ac
ynyr eidal tisin i magwyd ef[.]
Ai rieni ef hagen yr yw bod
yn beganiaid ann ffyddlon yr
oeddynt yn anrrydeddus o
vrddas bydol[.] Kanis i dad yn
gyntaf a vv varchoc vrddol vr:
ddassol[.] A gwedy hynny yn
gapten ar varchogion. Yntav
Marthin yni ievengtid a ym:
arverodd o ddwyn arvav dan
gonstans Amerod Ruvain[.]
Ac wedy hynny dan Iulianvs
Sissar nid oi vodd kanis oi vab:
olaeth Rybucho gwasanaethv
duw yr oedd[.] A phann oedd ddec
blwydd o oedran ef a aeth yr
eglwys o anvodd i rieni i geisio
bedydd[.] Ac yn an Ryvedd yr
awr honno ef a droes i veddwl
mewn gweithredoedd duw yn
gymin a chwynychv o hono
vyned yr diffaith i benydio i
gorff yni ddevddengmlwydd[.] Ac
ef a[ ]wnaeth ar hynny eddvned
ddigon kadarn pe i oedran nis
llesteiriai[;] eisioes yni vabolaeth
veddwl yr oedd ai vryd ar vyn:
achlogoedd ac eglwysi[,] yr hynn
a gwplaodd yn ddwyvol gwedy
hynny[.] A phann ddoeth gorch:
[yr ail golofn:]
ynvn i wrth y brenhinoedd i bawb
o veibion yr hen varchogvrddolion
ddyvod i roddi ev llw ai henwav i vod
yn varchogion yn lle ev tadav [-] A
thrwy gyhudd i dad ef oedd hynny[,]
yr hwnn oedd yn kenvigennv
wrth weithredoedd da: [-] Marthin i
vab yna a ddalpwyd yn bymtheng:
mlwydd o oedran[.]
pwy sy'n mynd nesa'?
rwy'n folon (*^^*):
A thrwy garch:
ar mewn heyrn ef a gymhellwyd
i vod yn varchoc vrddol[.] A bodlon
vv ef ar vn gwasanaethwr[.]
Ac i hwnnw yny gorthwyneb i gwn:
ai y meistr y gwasanaeth yn gym:
in ac i tynnai i am i draed a sychu
i esgidiau.
on'd yw'r darn nesa' yn mynd yn yr un frawddeg â'r sgidie fel elfen adferfol?:
Ar vn Ryw vwyd a
lewynt.
h.y. "ar adeg unrhyw bryd o fwyd a gaffent"
?
aha - ie, mae'r darn yn asio; sori; yn cael fy ngham-arwain yn llwyr gan y coch! "a'r unrhyw fwyd a lewynt" sef "ac fe fwytasant yr un math o fwyd".
neu, yn hytrach, "a'r un bwyd yn union a fwytasant" (h.y. y meistr, Martin, a'i was).
eeww. wrth gwrs!! down i'm yn deall y cymal 'na o GWBWL. diolch, szczeb.
(llewaf - berf wych!)
Tair blynedd agos kyn
i vedyddio y bu yn ymddwyn ar:
vav[;] yr hynny yr oedd ef yn lan
or beiav y rai y byddai i genedl
yn ymarver o honvnt.
(rwy'n falch o'i glywed e!)
ocê 'te, dylen ni allu cyrraedd gwaelod y dudalen o fewn dau dro ac erbyn y penwythnos. beth amdani?
Mawr
oedd i gariad ai ddaioni y mysc
i gyd varchogion[.] Anwydus ac
vvydd oedd yn ragorol rac neb
val y tybygid i vod ef yn vynach
yn gynt noc yn varchoc vrddol[.]
Ac ar y pethav hynn ef a dynodd
atto gariad i gyd varchogion hyd
pann wnent i vrddassu ef yn
an ryvedd.
Ac yr nad oedd ef
wedyr vedyddio[,] ef awnai weith:
redoedd da val dyn bedyddiol[;] nid
amgen kynorthwyo lluddedigion[,]
helpio keudusion porthi newy:
noc a dilladu noethion[,] heb
gadw dim oi gyfloc iddo e hun
eithr i vywyd dynol rrod
Beth yw "keudusion"? a beth yw'r "rrod" na - rhaid 'mod i'n camddarllen, achos mae'r tudalen nesaf yn dechrau fel hyn, ac eisiau rhyw air fel "nid" ar ddechrau'r frawddeg:
gwrandawr byddar oedd ar yr evengyl
heb goffau drannoeth yr hynn agl:
owsai[,] namyn koffau pob peth a
wnai ef ai kadw yni gof[.]
"reudusion"...? (rhai sy'n rheidus?)
rwy'n credu taw "nid" yw'r gair wedi'r cwbwl. o hanner cau dy lygaid, mae modd credu taw "n" fras yw hwnna!
mae hynny i gyd yn gwneud synnwyr. Rhaid taw "N" yw'r llythyren yna, ond am lythyren!
finis
gyda llaw, diddorol gweld "wedy'r fedyddio" yna. berfenwau benywaidd - gwych!
berfenw benywaid neu, yn hytrach, y geiryn "ry" yn achosi treiglad meddal?
Wrth sôn am y geiryn berfol "ry", diddorol yw'r enghraifft a rydd DSE yn MWG o'i ffurf Hen Gymraeg: "rit pucsaun mi" 'I should have desired"! Cf. GMW para. 185 hefyd am enghreifftiau pellach o "ry" yn tro'n <-r> ar ôl 'neu', 'ny', 'no', 'gwedy', 'py', 'y'.
posib iawn!
rwy'n ffaelu ffeindio dim yn GMW sy'n sôn am genedl berfenwau. Mae hyn yn od oherwydd rwy'n cofio fod JM-J yn trafod hyn yn ei Ramadeg yntau; yn anffodus dyw'r llyfr hwnnw ddim wrth f'ochr yma ar y foment.
dim sôn am y gair "bedyddio" yn JMJ. felly mae'n debyg taw ry sy 'da ni yma - da iawn szczeb-kun!
wyt ti'n gallu meddwl pam y byddai DSE wedi peidio â sôn am genedl berfenwau? Does bosibl taw ffenomen sydd yma a gododd ar ôl y cyfnod canol.
nagos - rhywbeth sydd wrthi'n diflannu yn ystod hanes cymraeg yw e, mae'n siwr!
mae 'na sawl peth y bydd DSE yn eu trin yn doji braidd (e.e. treiglad sangiadol ymysg y treigladau), ac ambell i ffaith ieithyddol y bydd e'n disgwyl i'w ddarllenydd fod yn gyfarwydd â hi'n barod (e.e. "vowel affection and mutation").
bydd dyn yn cael yr argraff weithiau bod DSE yn sgrifennu atodiad i ramadeg cymraeg modern, gan ddangos beth sy'n rhyfedd am gymraeg canol. ond ie, os felly, pam dim sôn am genedl berfenwau?!
Post a Comment