Sunday, August 10, 2008

Yn y cach afiach, chaviach




Mae'r blog 'ma wedi bod bach yn dawel yn ddiweddar... pawb bant yn mwynhau'r haul a'r cwrw ym mhedwar ban byd...

Gwn fod Kasi a Becky wedi bod yn mwynhau haul a chyffro'r Eisteddfod Ddinesig - wrth aros iddyn nhw ddod yn ôl, dod at eu coed a challio unwaith eto ar ôl gor-ddôs o gymreictod a threigladau meddwl, dyma flogiad da iawn i aros pryd.

O, ie - ac os ydych chi heb glywed Derwyddon Dr Gonzo, yna ewch ati da chi i wella'ch bywyd estheto-seinyddol drwy wneud hynny!

Heiya - mae blog "Bo" yn werth ei ddarllen. I'r rhai ohonoch sydd â chwant gwybod, neu â chwant cofio (neu â chwant codi ofn arnoch eich hun cyn camu i wersi yn y semestr newydd), mae ei orolwg o'r ferf Wyddeleg i'w weld nid yn unig yn gywir ond hefyd yn ffraeth.

Ac wrth sôn am flogiau pobl eraill, beth am hyn am syniad da - ceisio byw am fis heb blastig. Rydyn ni wedi cymryd cryn gamau fan hyn yn Boston St tuag at wneud y ty^ yn un di-fagiau plastig (drwy fynd â'n bagiau'n hunain bob tro i'r siop, sy' ddim yn rhy anodd, wedi'r cyfan) - ond mae'r her yma'n swnio'n un reit werth chweil.

Oes 'na rywun arall fyddai â chwant ymuno â mi i geisio? Beth am fyw am un mis yn ddi-wastraff (h.y. dim byd 'disposable' sydd ddim yn cael ei ail-gylchu'n llwyr, a dim defnydd di-angen o bethau gwirion megis cloriau ar gwpanau coffi... neu'r cwpanau eu hunain, wrth feddwl amdani) - fyddai hynny'n bosibl?

Ac ar y trywydd gwyrdd yma, i'r rhai ohonoch chi sy' heb ei weld hi, beth am tsiecio rhaglen newydd Ifor ap Glyn, Popeth yn Wyrdd - nid y peth gorau erioed, ond eto'n ddigon o hwyl ac mae egni ac asbri Ifor i'w rhyfeddu.

3 comments:

asuka said...

ydy mae'r blog 'na'n werth ei ddarllen. be sy angen yw temptio'r boi draw i ochr gymraeg y blogosffêr! ^^

asuka said...

parthed yr arbrawf: gad ifi ymgartrefi yn oberlin gyntaf - ond rwy'n leicio'r syniad.

Cer i Grafu said...

Diolch am y ddolen i flog Bo - deunydd darllen difyr iawn iawn.