Thursday, August 14, 2008

Hapusrwydd heb lofft.




Dolen arall werth ei dilyn yw Y Tŷ Cymreig - cyfres o raglenni ar bensaerniaeth sy'n haeddu cael ei hadnabod yn glasur am wn i.

Y rhaglen ddiweddaraf (ac ewch ati i wylio'n syth bin - ni fydd ar gael yn hir) - yw 'Y Byngalo'. Testun od, efallai - nid yw byngalôs fel arfer ymhlith yr enghreifftiau amlycaf o bensaerniaeth ardderchog, ond yn ddiweddar bu double-act Greg Stevenson ac Aled Samuel (yn y llun) yn goleuo sawl cornel mwy annisgwyl o fyd brics a meini Cymru.

Nid y tai yn unig sy'n ddiddorol yn y rhaglenni hyn, ond yn aml hefyd y bobl sy'n byw ynddynt - co'r boi cyntaf i gael ei gyfweld mewn byngalô: bardd barfol os buo 'na un erioed, a hwn yn siarad math arbennig o wych o'r Gymraeg - sef Cymraeg hollol ramadegol gywir heb yr un iot o acen Gymreig! Gwych o beth, lliwgar, ecsentrig a ffantastig. (Cam neu chwech yn unig o Gymraeg hyfryd Greg Stevenson, sy'n cam-dreiglo bron cymaint â Meic Stevens wrth i'w homunculus o gyfieithydd-ar-y-pryd hynod dalentog weithio'n wyllt ym mherfedd ei ben).

Pobl byngalôs, mae'n debyg, yw pobl hapusaf Prydain... one-liner gorau'r gyfres efallai, gan Aled Laurel i Greg Hardy (er fod Stevenson ryw ychydig yn fwy amyneddgar gyda'i sidekick): "Mae grisiau felly'n gwneud pobl yn drist."

Ond cymerodd dipyn i wneud menyw arall yn hapus; eto, yn unol ag arferion gorau'r rhaglen, dyma agor y drysau ar 'slice-of-life' gwych ac emosiynol wrth i ferch y 'dolydd a'r mynyddoedd' ddisgrifio'r amser hir y cymerodd iddi addasu i fywyd mewn gofod unllawr heb yr un afon ar gyfyl y lle, ar ôl iddi orfod symud i byngalô gyda'i mham ar ôl "profedigaeth". Ac am fyngalô! Enghraifft arbennig o brin o fyngalô ychydig yn Art Deco, yn llawn celfi sy'n hollol gartrefol mewn tŷ o'r fath o'r 30au.

Ac yna byngalô gwych iawn o'r 60au - "shagpile go iawn" yng nghanol lolfa'n llawn o gelfi'r cyfnod; amgueddfa go iawn o gynlluniau'r cyfnod yn gymysg ag ambell i beth ychydig yn fwy traddodiadol.... "Lolfa" am y tro cynta' mae'n debyg, yn cymryd drosodd o'r "parlwr" am taw yn y cyfnod hwn y cafodd pobl y cyfle i 'lounge'o' am y tro cyntaf.

A dyma'r rhaglen yn gorffen gyda byngalô "ychydig yn well na byngalô" a gymerodd bum mlynedd i'w adeiladu - "gwers i bawb sydd eisiau adeiladu byngalô" yn ôl Dr Greg Stevenson, oherwydd y meddwl a'r cynllunio penigamp a aeth i mewn i'r prosiect ("Ty'n y Coed" Eryri), adeilad a ddechreuodd ei yrfa yn gaban gweithywr cyn ei ail-godi'n fyngalô, gan gadw ambell i nodwedd o'r hen adeilad.

Ie, ac mae sylwadau cloi'r Dr Stevenson yn berthnasol nid yn unig i'r math o dŷ a gafodd sylw yr wythnos hon, ond i'r gyfres drwyddi draw, cyfres â phersonoliaeth dawel ddiymhongar gelfydd.

"Mae'n nhw'n dai gonest iawn. Mae'n nhw'n dai hamddenol iawn. Ac maen nhw'n dai hapus iawn. Rwyt ti'n gallu teimlo'r hapusrwydd ym mhob un ohonyn nhw."

5 comments:

Rhys Wynne said...

Dw i wedi newid swydd yn ddiweddar, ac ar hyn o bryd, dw i'n gosod is-deitlau (Cymraeg) i'r gyfres nesaf o'r Tŷ Cymreig. Mae'n raglen gwych chwarae teg - anaml iawn gelli'r dweud y fath beth am raglen S4C!

Szczeb said...

Cei di hwyl wrth wneud hynny, Rhys, mae'n siwr (bydd rhaid iti ddewis a wyt ti eisiau ail-gyflwyno'r treigladau i iaith Greg S.! ^^).

Mae'r rhaglen ddiweddaraf, "Tai Rhyfeddol" hefyd yn werth ei gwylio (oes patrwm yma, tybed?) - yn enwedig y rhan olaf am yr hen bâr priod sy'n byw mewn cerbyd trên GWR!

Heblaw am y cynnwys, mae'r ffilmio a'r cynhyrchu yn gampus hefyd. 10/10 yn wir.

asuka said...

os yw dy risiau di'n dy wneud yn drist, mae'n debyg taw y grisiau rong sy gen ti! unwaith y ffeindia' i'r camera digidol, gwna' i bostio lluniau o'n grisiau ni yn y tŷ 'ma rŷn ni newydd symud i mewn iddo - grisiau gwych!
'sgenny' ddim byd yn erbyn tai un llawr, ond bo fi'n rhyw leicio byw rywle gyda grisiau. a 'sdim rhaid iddo fod yn dŷ 'chwaith - byddwn i'n hapus mewn fflat 'fyd 'sai grisiau i'r bilding!

Szczeb said...

Asuka: gallet ti fyw mewn byngalô a chael grisiau bach llyfrgellyddol i gyrraedd y silffoedd uchel a'r cypyrddau yn y gegin.

asuka said...

syniad da. neu gallai dyn godi grisiau fel y rhein.