Friday, May 23, 2008

trysorau

bues i yng gaerdydd heddi, a chael amser gwych - am ddinas! siopa yn y dref, te mawr ym madhav's yng ganton. prynais i gwpwl o bethau cŵl yn y siop lyfrau cab@n ym mhontcanna, gan gynnwys copi o y treigladau a'u cystrawen gan t. j. morgan, a'r ddau hen lyfr glas a melyn am idiomau cymraeg gan r. e. jones sy 'di tynnu fy sylw i sawl gwaith yn y gorffennol!

6 comments:

Gwybedyn said...

sut teithiaist ti lawr o Fangor? rhaid ei bod hi'n dipyn o daith os est ti ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Welest ti feirdd yn Caban? Y tro diwethaf i mi fynd yno roedd T. James Jones yn eistedd yn cael panaid, a Grahame Davies jyst ar ei ffordd ma's.

Y Treigladau a'u Cystrawen!! Am lyfr! Tybed be feddyliai'r hen Morgan am y treiglad meddal ar ôl 'yn'!

asuka said...

newydd gyrraedd adre: abertawe-caerdydd-birmingham-lerpwl-bangor.
un awr ar ddeg ar y ffordd. so'r treiglad meddal yn gyffredinol ar ôl "yn" nagyw? 'mond "c" rwy 'di chlywed yn treiglo'n feddal yna...
(dim beirdd yn sefyllian yn caban brynhawn dy' gwener hyd y gwelais i - falle bod nhw'n cuddio!)

Gwybedyn said...

waw, am daith! ac am daith wych, hefyd - sôn am ddinasoedd i ymweld â nhw ar daith trên. Dim ond Birmingham sydd ychydig yn brin o ysbrydoliaeth farddol am wn i, ond rhaid bod 'na ambell i un yn fan'na hyd yn oed. Gest ti flas ar Abertawe o gwbl? Eto, yr atgofion gwychaf sydd gen i o'r ddinas honno yw'r rêfs (cyfreithlon ac anghyfreithlon) ddechrau'r 90au. O ie, a gig ardderchog iawn gan Bob Delyn a'r Ebillion ryw bedair neu efallai bum mlynedd yn ôl.

asuka said...

'sdim cweit cymaint o awyrgylch ar y bws rwy'n teimlo.^^
ond roedd hi *yn* wych gweld caerdydd ac abertawe. ces i weld syrffio yna - criw o blant yn cael gwers syrffio yn y glaw fore dy' sul ("nippers" rŷn ni'n galw plant fel'na yn awstralia - "niperi" yn gymraeg siwr o fod). rwy'n cofio cwrdd â rhywun rai blynyddoedd 'nôl a oedd yn magu diwylliant syrffio *cymraeg* abertawe, sy'n wych.

Rhys Wynne said...

Dwi'n byw yng Nghanton (neu yn Nhreganna hyd yn oed!). Dwi wedi cwrdd ag ambell i ddysgwr o'r UDA yng Nghaerdydd (er dwi'n deall mai Aussie wyt ti).

Fi a Robert yn y Mochyn Du
Fi a Tom yn Y Cayo

asuka said...

diddorol clywed *bod* 'na bobl sy'n byw yng NGHaerdydd wedi'r cwbl - ond mae 'na lot sy'n byw yng Gaerdydd 'fyd! (sy drws nesa', falle.)
neis gweld y lluniau 'fyd. tybed faint o bobl sy'n dysgu cymraeg ar eu pennau eu hunain tramor sy ddim ar y we fel robert a tom. rhaid bod 'na lwythau ohonyn nhw mewn gwlad fawr fel u.d.a. - pan own i'n byw yn baltimore roedd criw bach yn arfer cwrdd unwaith yr wythnos ar ôl y gwaith i weithio drwy adnoddau dysgu cymraeg, ac mae'n debyg bod nhw'n dal wrthi.