Sunday, May 11, 2008

rhywbeth newydd


annwl gyfeillion,
mi welwch chi rywbeth newydd ar ochr dde y blog heddiw: blwch yn hysbysebu neges gyntaf fy mlog cymraeg personol i (ie, blog newydd fi! fi! fi!).
bydda' i'n parhau i ysgrifennu fan hyn, wrth gwrs, am 'mod i'n ffan mawr o gyd-flogio, ac rwy'n credu bod y blog hwn yn ffordd wych o fagu cymuned gymraeg ymysg myfyrwyr harvard - bywyd hir i harvard cymraeg!
drwy'r ffrwd ("feed") ar y blog 'ma, rwy'n treio cadw rhyw gysylltiad arbennig rhwng y ddau flog: bydd hi'n hawdd i bawb fan hyn weld beth sy'n digwydd ar 'mlog i, a mynd i'w ddarllen os byddan nhw eisiau. ac os bydd blogiau cymraeg gydag aelodau eraill harvard cymraeg, gobeithio y byddan nhw'n fodlon gwneud yr un peth - ffordd o gadw mewn cysylltiad pan fyddwn ni'n gwneud ein pethau ein hunain.
hei, os dewch chi draw i ymweld â'r blog arall, mi gewch chi groeso cynnes!

2 comments:

Gwybedyn said...

Mae'n dda gweld bod y teulu'n tyfu! Falle caf innau fabi ryw dro... neu gynrhonyn o leiaf! :)

asuka said...

diolch szczeb, rwy jest yn hapus bod y "ffrwd" 'na'n gweithio - mae e'n frechus braidd. rwy'n mynd i adael y blwch fel mae e am sbel i weld fydd e'n para i weithio neu beidio.
gallwn ni ei symud e wedyn, neu ei fyrhau, neu beth bynnag.