Sunday, May 04, 2008

pa ffilm i gael y driniaeth?


rwy wir o'r farn bod y syniad 'ma o is-deitlo ffilm yn gymraeg gyda'n gilydd yn un gwych. gwerth ei drafod yn rhagor bendant - hyd yn oed er na fydd amser 'da'r un ohonon ni ar hyn o bryd i ddechrau ar y fath brosiect, gallai fod yn ffordd ddelfrydol o'n hatal ni rhag anghofio'n cymraeg i gyd dros yr haf i ddod.
rhaid imi ddiolchi i rhys wynne am roi gwybod am y wefan is-deitlo dotSUB.com. rwy bellach wedi edrych drosti hi ac ydy, mae ddi fel 'sai hi'n dda iawn - mae'n ddigon hawdd ei defnyddio, ac rwy'n casglu bod iddi ryw declyn wici 'fyd er mwyn y sawl sy'n gweithio ar y cyd. i'r dim, mi wedwn! ^^
beth rych chi i gyd yn ei feddwl o'r cynllun 'ma, 'te?

ocê, os oes 'na rai yn ein plith ni sy'n leicio'r syniad cymaint â fi, man a man inni ddechrau sgwrs am ar ba ffilm y leicien ni weithio. mae'n bwysig dewis ffilm nad yw yn saesneg, ar wn i. nawr, rwy'n gwybod nad ŷn ni i gyd yn medru'r un ieithoedd â'i gilydd a bydd rhaid i rai/bawb ohonon ni ddibynnu ar is-deitlau saesneg wrth baratoi'r fersiwn cymraeg, waeth pa ffilm y byddwn ni'n ei dewis - sy ddim yn ddelfrydol wrth gwrs, ond mae e'n dal yn werth ei wneud yn 'nhŷb i.
so pa ffilm sydd i gael y driniaeth? rwy'n ysu am glywed awgrymiadau. fel y bydd pawb yn gwybod, rhyw leiciwn i dreio anime (hei, totoro drws nesa' - mae ganddi hawl i fodoli!) ond byddwn i'n fodlon taclo bron unrhyw beth.

... ar wahân i amélie, wrth gwrs.... ac rwy'n gwrthod gwneud dim byd gan federico fellini 'chwaith, gyda llaw... na wim wenders... nac alejandro jodorowski.
ond bron unrhyw beth arall, wir ichi!

2 comments:

Gwybedyn said...

ar wahân i'r ffaith nad oes 'na'r un ffilm ar ôl bellach yr hoffwn ei chyfieithu, rwy' gant y cant tu ôl i'r syniad hollol wych yma!

:)

Fy newis ieithoedd:

Llydaweg
Gwyddeleg
Pwyleg
Ffrangeg/ Almaeneg
Swedeg

(gydag eithriad o bleidlais uchel ar gyfer Siapaneg, wrth gwrs) :)

asuka said...

dau awgrym:
"tonari-no totoro" miyazaki
"suspiria" argento