bues i'n siopa yn LIDL heddi pan sylwais i ar becynnau o fisgedi siocled "maryland" ar werth. am 'mod i'n dod o maryland, down i'm yn gallu ymatal rhag prynu rhai i gael gyda 'nisgled. bisgedi maryland, chicken maryland, y fi - o maryland mae pob dim da'n dod.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
4 comments:
Mi ges i fy synnu gweld yn Morrisons na cymaint o becynnau bwyd Americanaidd. Roedd gynnyn nhw Yakuruto, diod iogwrt o Japan hyd yn oed.
ie! mae e'n lle bach cosmopolitaidd, on'd yw e?
wrth sôn am fwyd yng nghymru... bues i mewn tafarn yn ynys môn yn cael swper gyda grwp o'r brifysgol neithiwr ac roedd e wir yn dda. doedd 'na ddim llawer o ddewisiadau llysieuol, ond roedd e'n ffeind iawn 'ta waeth am hynny!
Ac roeddech chi'n siarad Cymraeg wrth gwrs!
oedden, wrth gwrs. ac roedd y staff i gyd yn siarad cymraeg yn y bwyty hefyd - na fydd yn digwydd bob tro, gwaetha'r modd, hyd yn oed ym mangor. noson hyfryd!
Post a Comment