Thursday, May 01, 2008

Proffwydoliaethau a Gweledigaethau

Efallai o achos fy mod i wedi bod yn darllen llawer o broffwydoliaethau a breuddwydion a gafodd eu ysgrifennu yn ystod yr Oesau Canol, mae fy mreuddwydion fy hunan wedi bod yn rhyfedd yr wythnos 'ma. Rydw i wedi breuddwydio bod fy nannedd yn torri a phydru, arwydd sy'n arwyddio y bydd fy mherthnasau oedrannus yn marw yn fuan yn ôl Artimedorus. (Yeics!!!) Wedyn breuddwydiais i fod trafferth gyda fi nes i flaidd mawr fy achub. Wrth gwrs rydw i wedi bod yn ymchwilio cân am "Chwe brenin sy'n dilyn John" sy'n galw Owain Glyn Dŵr "y Blaidd Gorllewinol." Mae'r breuddwydion hyn yn fy atgoffa o'r breuddwydion a freuddwydiais i pan oeddwn i'n ysgrifennu fy nhraethawd MA. Yn y breuddwydion hyn roedd Wulfstan, Escob Efrog, yn fy nguro wrth ddweud wrthaf i fy mod i'n mynd i'r Uffern! Roedd hynny'n rhyfedd iawn yn wir.

Sigh. Pryd mae'r gwyliau'n dechrau?

1 comment:

Becky said...

Mae dy freuddwydion yn ryfedd iawn, Kasi :)