Thursday, May 01, 2008

Cerdd ar y cyd i ddathlu diwedd y semester

Am fod pawb yn hapus, a'r haul yn tywynnu, a Kasi a Sarah yn cyfieithu caneuon ♪ ♫, beth am inni greu cerdd fach ein hunain (neu gân fach ♪ ♫ os yw'n well 'da chi)? Sdim angen iddi gynganeddu. Rydyn ni wedi creu limrigau yn y gorffennol, on'd do!

Dyma'r llinell gyntaf. Eich gwaith chi yw llunio llinell arall sy'n odli (ac sy'n cadw i ryw fath o rythm) ac yna gallwch chi, neu rywun arall, lunio'r llinell nesaf (ac yn y blaen).

"Mae'n ddiwedd y flwyddyn yn Harfard i ni"

9 comments:

asuka said...

reit barod am ddiwedd y flwyddyn ŷm, 'sti,
a lan yn y llyfrgell a lawr yn yr iaaaard...

Gwybedyn said...

ŵŵŵŵ , Suka - ti 'di taflu 'cyrfd bôl' yn fan'na gyda'r old yn -ard!

Gwybedyn said...

Mae'n ddiwedd y flwyddyn yn Harfard i ni -
reit barod am ddiwedd y flwyddyn ŷm, 'sti!
A lan yn y llyfrgell a lawr yn yr iaaaard...
Mae'i gwrol fyfyrwyr, athrawon tra maaaad
Yn chwarae, yn gwenu, yn hapus eu byd

asuka said...

[gen i ambell i syniad - ond tro rhywun arall yw e!]

asuka said...

[wrth fod bawb bant yn dysgu rywle:]
Mae'n ddiwedd y flwyddyn yn Harfard i ni -
Reit barod am ddiwedd y flwyddyn ŷm, 'sti!
A lan yn y llyfrgell a lawr yn yr iaaaard
Mae'i gwrol fyfyrwyr, athrawon tra maaaad,
Yn chwarae, yn gwenu, yn hapus eu byd,
A hynny o achos ei blog ar y cyd,
Yr annwyl, yr enwog hā-bā-do cymraeg...

Gwybedyn said...

Www, Suk, ti'n un cas: /a:g/ neu /aig/ acennog!

ychydig o syniadau i'r darpar-odlwyr sydd ma's yna...

saig
Tadhg
gwraig

neu

gwag
brag
Prag

asuka said...

"draig", "craig", "mag", "tag", ac mae gen ti "rheg" ac ati hefyd.
ond byddai "brag" yn neis - rhyw gyfeiriad at john harvard's falle?
(ond os nad yw pobl am dderbyn 'nghwpled diweddaraf i, 'sdim lot o ots 'da fi 'chwaith!)

asuka said...

"ysgolhaig" hefyd, a fyddai'n odl gwych... digon o ddewis!

Gwybedyn said...

ie - byddai 'Ysgolhaig' yn ddewis a hanner!

beth amdani, feirdd!?