rwy'n dost. roedd hi'n bwrw cesair trwy'r penwythnos ac rwy'n credu ifi ddala'r ffliw neu rywbeth tebyg.
(methais i â ffeindio'r llun o kiki yn dost yn y gwely own i am ei roi yma. dyma ichi lun o kiki wedi diflasu felly yn ei le. oes rhywun arall sy'n leicio kiki?)
Monday, April 07, 2008
gwlad fach yr iâ
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
3 comments:
Kiki druan. mae hi'n edrych fel ti, hefyd, 'Suka.
Brysia dithau i wella, hefyd. Mae cymaint o anhwylder ac anffawd o gwmpas y blog ar y foment!
Pwy ydy Kiki?
y prif gymeriad yn un o'm hoff ffilmiau i yw kiki, ffilm sydd â'r teitl saesneg "kiki's delivery service".
gw. y wefan fan hyn:
http://www.nausicaa.net/miyazaki/kiki/
ffilm am dyfu lan yw hi - yn ystod y stori mae kiki yn dod i'w deall ei hunan ychydig yn well wrth greu cymuned iddi ei hunan yn ei dinas newydd. mae'n wych gwylio ffilm i'r ifainc sy'n trin themâu fel iselder a'r syniad o'r ddinas. hunaniaeth a'r ddinas, themâu pwysig a haniaethol, ac rwy'n siwr y byddet ti, edyta, ac *unrhyw blentyn wyt ti'n 'nabod* yn joio'r ffilm. ;)
Post a Comment