Sunday, April 06, 2008

Fflur Dafydd


Ces i albym newydd 'Fflur Dafydd a'r Barf' yn anrheg yn ddiweddar - "Un Ffordd Mas". A dyma fi'n cael profiad rhyfeddol o gyfarwydd imi, sef dod i ryw hoffi arddull cerddorol na fyddwn i byth wedi gwrando arno fel arall. Mae rhywbeth od yn digwydd pan nad Saesneg yw'r iaith (rhyw ostranienie, lleiafrifol o bosibl). Yn yr achos yma, rhyw fath o bop acid-jazz sydd, rwy'n credu (cywirwch fi, y rhai yn eich plith sy'n fyw yp-tw^-dêt ym myd termau miwsig), a 'dyw hi ddim yn wael o gwbl. Gallet ti ddadlau'n hawdd bod y geiriau ychydig yn ddi-ddim, ond beth yw ots hynny - nage fel'na mae pop i fod?

(Trueni nad oes fideo go iawn i gyd-fynd â'r gân, ond chewch chi byth mo'r byd i gyd mewn un blog bach).

Cewch eiriau'r gân (a manylion am holl gerddoriaeth Fflur Dafydd) fan hyn.

No comments: