Sunday, April 13, 2008

Diolch am bobeth! French a Saunders


Ar ôl gweithio gyda'i gilydd ers tri degawd, mae Dawn French a Jennifer Saunders wedi cyhoeddi eu bod nhw'n rhoi terfyn ar eu rhaglen comedi French and Saunders. O ganlyniad maen nhw'n rhoi terfyn ar eu partneriaeth hir a gynhyrchodd French and Saunders, Absolutely Fabulous, The Vicar of Dibley, Jam and Jerusalem, a llawer o berfformiaidau byw hefyd. Wrth gwrs all gwragedd rhyfeddol fel French a Saunders ddim gadael y llwyfan yn dawel. Maen nhw wedi cyngyrchu eu rhaglen derfynol i'r BBC: Bucket o' French a Saunders yw'i henw. Maen nhw'n lansio taith o gwmpas Prydain y maen nhw'n yn ei galw Still Alive hefyd. Er nad yw'r holl beirniadaeth am y rhaglen yn dda, rydw i'n meddwl y bydd y sioe fyw yn ardderchog. Perfformion nhw yng Nghaerdydd dros y penwythnos 'ma, ond gallwn ni ddal eu perfformiad yn Llandudno ddydd Sadwrn. Taith ffordd, unrhywun?

Yn ychwanegol doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod Dawn French yn dod o Gaergybi hyd nes y darllenais i am y finale. Rydw i'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.

1 comment:

asuka said...

tybed fyddai'r brifysgol 'di bod yn fodlon talu am y daith? mae myfyrwyr sy'n astudio hanes celf yn cael mynd i ewrop weithiau yn dŷn nhw?