Saturday, April 05, 2008

Cysgliad i'r Mac


I'r Mac-wyr yn eich plith, dyma gyfle ichi gael rhaglenni gwirio sillafu a gramadeg am ddim. Ble mae'r fersiwn PC, dyna'r cyfan rwy' eisiau gwybod.

10 comments:

asuka said...

alla' i byth gwneud i'r pethau 'ma weithio! falle nad yw'r system software briodol 'da fi.

asuka said...

na - dyw hi ddim :(

Malone said...

ie, trueni. syniad da yw e, ond dydy'r rhaglen ddim yn gweithio. mae hi'n crashio pob tro.

:p

asuka said...

persephonia, ga' i ofyn pa fersiwn yw dy "system software" di? mac os x 2.4 sy 'da fi, ond rown i'n hanner gobeithio y byddai fe'n gweithio ar beiriant 'mhriod i, sy'n ddiweddarach.

Malone said...

hei 'Suk, mae fersiwn 10.3.9 gyda fi. Oes cyfrifiadur newyddach gyda X---?

asuka said...

oes, peiriant llawer ffansïach nag sy gyda fi! gall e ddefnyddio "skype" a'r pethau newydd a cŵl 'na i gyd.
rwy 'di sylweddoli bod y nodiadau i "cysglyd" yn argymell fersiwn 10.4 o leia' - falle taw dyna dy broblem dithau.
rwy'n gobeithio cael 'nghyfrifiadur i i bara tan 2013. pwy sy'n gwybod pa feddalwedd gymraeg wych fydd ar gael erbyn 'ny!

Gwybedyn said...

Fersiwn 10.4 neu ddiweddarach mae'i angen arnoch chi, yn ôl y wefan, on'd oes? Ond diawch, 'Seph - rwyt ti o fewn trwch blewyn go iawn gyda dy 10.3.9).

Gwybedyn said...

neu hyd yn oed 'sydd'!

(mae'r busnes yma o newid pethau heb edrych o gwmpas yn mynd yn drech na fi!)

Malone said...

ffycinel! dwi mor agos iddo yn wir! Wel, dyna fe, rhaid i fi brynu cyfrifiadur ffansi newydd gyda skype a pethau cŵl ereill!

(neu efallai dim.)

'nôl i'r geiriadur bach a peter wynn thomas, dwi'n ofni!

Gwybedyn said...

Wrth sôn am Peter Wynn Thomas (t. 484):

gan

[...]

Enghreifftir y gwahaniaeth gogwydd hwn rhwng gan a dan gan y parau brawddegau canlynol:

Gan redeg nerth esgyrn ei draed, diflannodd i'r gwyll.
Diflannodd i'r gwyll dan redeg nerth esgyrn ei draed.
Cerddodd i'r gwaith, gan ganu.
Cerddodd i'r gwaith dan ganu.

Iawn, 'te - peidied neb â drysu'r rhain eto!

;)