Saturday, April 26, 2008

bron yn enwog


rwy newydd sylweddoli 'mod i'n dal heb weud wrthych chi am hyn, ond bron iawn ifi fod ar y teledu yma!
sut diwgyddod e? wel! dyna fi'n cerdded i lawr y brif stryd ar y ffordd i ALDI pan ddaeth criw ffilmio ataf fi - dyn camera, technegydd sain, cyfwelydd (ac iddo wallt cŵl iawn wrth gwrs), a rhyw bedwerydd person yn gwneud sa-i-'n-siwr-beth.
-esgusodwch fi, o'n i'n siarad cymraeg?
-o'n.
-beth oedd fy marn ynghylch anffyddlondeb ashley cole?
-hy? pwy?
-gŵr cheryl cole...? o girls aloud...?
roedd rhaid i fi esbonio 'mod i'n dod o awstralia a do'n i erioed 'di clywed am cheryl cole. a dyna felly 'ngobaith i gyd o fod ar y teledu yn diflannu i lawr y plyg.
... a chwestiwn am ddiwylliant pop hefyd! mae arna' i sut gymaint o gywilydd! nawr, 'sen nhw 'di fy holi i am grŵp o awstralia (fel girlfriend!) gallwn i fod wedi siarad am oriau... neu rywbeth am artistiaid rhyngwladol.

9 comments:

Emma Reese said...

Doedden nhw ddim yn synnu fod ti'n siarad Cymrag yn dda?

Gwybedyn said...

ew, sôn am golli cyfle! dylet ti fod wedi dweud wrthyn nhw nad wyt ti'n rhoi cyfweliadau am Ashley Cole am dy fod di'n bwrw dy fol ar bethau fel hyn ar yr enwog HarvardCymraeg.blogspot.com!

Oes rhywun yno sydd _yn_ gyfarwydd â'r cymeriad anffyddlon yma? (S'mo innau erioed wedi clywed amdano, ond yna mi rydw i'n byw dan garreg diwylliannol!).

Gwybedyn said...

Pa iaith sy' gyda ni bellach? Afrikaans?

asuka said...

na, emma, alla' i'm honni bod 'nghymraeg i 'di creu argraff rhy fawr ar y trigolion - achos nad yw hi'n rhy wych, mae'n siwr! rwy'n gwybod fod 'ngwybodaeth ramadegol yn dda ac mae 'ngeirfa'n ocê. diffyg hyder tra'n siarad yw 'mhrif broblem i o hyd!
ar bwnc cheryl ac ashley cole: rwy 'di dysgu'n ddiweddarach bod nhw'n selébs mawr iawn ym mhrydain. mae cheryl yn seren bop ac yn WAG (cysyniad prydeinig arall!).
szczeb, 'sdim clem 'da fi beth yw'r iaith. nid y fi a ddewisodd hi, ac os nad tithau a'i gwnaeth 'chwaith dim ond un posibiliad sydd ar ôl...

asuka said...

iawn, rwy newydd benderfynu 'mod i'n mynd i dreio treulio pob penwythnos sydd ar ôl 'da fi yng nghymru yn y de - sa' i'n cael digon o hanner o gyfleoedd i ymarfer 'nghymraeg am 'mod i'n nabod cyn lleied o bobl yma! rhaid i fi ffeindio mas beth yw'r ffordd rata' o fynd o fangor i gaerdydd.

asuka said...

gylp - tocyn unffordd ar y bws = 44 o bunnoedd, ac yn cymryd dros 8 awr...

Gwybedyn said...

Ar ddiwrnod braf mae bodio yn gallu bod yn ffordd ocê o deithio, ac yn aml iawn yn glouach na chymryd y bws, ac os sgwenni di dy arwyddion yn Gymraeg ("I'r De"; "Sir Gaerfyrddin"; "Caerdydd"), cei dy godi'n fwy na thebyg gan Gymry.

A rho wybod os bydd angen arnat le i noswylio yn y Canolbarth.

Edyta said...

Rydw i'n caru David B.  Mea ef mor hefryd! Ond, does dim amser gyda fi i wrando ar ei gerddoriaeth. wel, dydw i ddim yn gwrando ar un cerddoriaeth nawr -- heblau "trywerun" gan Stevens

Gwybedyn said...

Waw, am syniad gwych! "Tryweryn" gan Bowie!!!

"Mae'r blodau yn yr ardd..."