Wel, mae Aled wedi ebostio: mae rhaid imi ysgrifennu pedair neges ar y blog. Dw i'n meddwl i amser ffoi ohono i. Dyna ni. Yr wythnos hon yw'r wythnos olaf o ddosbarthiadau. Allwn i ddim yn teimlo mwy hapus, ond mae gormod o waith 'da fi. Mae rhaid imi ymchwilio ac ysgrifennu dau (dau!) babur am Werful Mechain, gwraig a bardd yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Achos hynny, oedd rhaid imi ddarllen llawer, llawer o baburau yng Nghymraeg (gan Marged Haycock, a Cheridwen Lloyd-Morgan, ac eraill). Mae'n dda i fy Nghymraeg, ond mae'n cymryd llawer o amser i gyfieithu. Dw i wedi blino.
Cofiwch: Dydd Sadwrn yw'r dyddiad at gynigion i HCC!!
Sunday, April 27, 2008
Blogio i'r Dosbarth
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
8 comments:
Sarah -- dw i'n meddwl taw athro anodd yw Aledd. Mae cymaint gwaith gyda ni!
A athro yn da iawn yw ef, wrth gwrs
Roeddwn i wedi clywed ei fod ef wedi lleihau'r baich gwaith yn ystod yr wythnosau olaf yma, ac wedi rhoi'r dewis i'r myfyrwyr beth hoffent ganolbwyntio arno wrth i'r arholiadau ddod. Celwydd oedd hynny, mae'n rhaid. Grrrrr.
Chwyldro amdani. Sut dylen ni ei ladd ef? Yn boenus ac yn araf?
Ond dau bapur ar Gwerful Mechain!! Aw! Ai Aled sydd a'r fai yn fan'na hefyd?
2 x Grrrr!!!
pawb mor flinedig - espressi per tutti, pronto!
pob lwc gyda'r traethodau, sarah.
Pob lwc, Sarah! Mae diwedd y flwyddyn yn dod!
Pob lwc Sarah. Wyt ti wedi cyfieithu'r gân yn barod? Rhaid imi gyfieithu dwy neu dair cân erbyn dydd Sadwrn a dydw i ddim yn hapus iawn amdano o gwbl.
Cofia, Kasi (a Sarah, ond cynigias help i Sarah o'r blaen) - os oes angen cymorth ar y cyfieithu, mae llond y lle o flogwyr yma sy'n dwlu ar gyfieithu!!!
(o ddifrif - postia ambell i linell ac mi awn ni i waith ar unwaith)
mi wnewn ni!
Post a Comment