beth am inni adfywio'r gêm gyfieithu? dyma ffordd mae'n gweithio:
i) rŷn ni'n dewis paragraff o saesneg gyda'n gilydd, rhywbeth digon byr, ac yn cytuno ar ddedlein
ii) pawb yn cymryd wythnos neu ddwy i weithio ar ei throsiad/drosiad cymraeg ei hunan
iii) rŷn ni'n eu cyflwyno nhw ar y blog
iv) mae'r hwyl yn dechrau, wrth inni wneud sylwadau ar gynigion ein gilydd
dim pwysau, ond falle bydd ychydig (iawn) mwy o amser 'da phobol dros y pasg na'r arfer, felly pam lai? nawr, 'te - pwy sydd am awgrymu darn?
(mae 'na groeso cynnes i ymwelwyr chwarae 'fyd os ŷn nhw moyn, emma reese!)
Thursday, March 20, 2008
parch. asuka yn siarad.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
6 comments:
Cytuno'n llwyr.
Fi ddewisodd y darn cyntaf, felly tro rhywun arall yw hi nawr.
Dewch â syniadau ac yna mi gawn ni bôl piniwn.
Fy newis i - rhan o baragraff cyntaf 'Lenz' gan Buechner (darn o'r Almaeneg drwy'r Saesneg, ond pam lai?).
f'awgrym i - peth o "the island of doctor moreau" h. g. wells.
wel, roedd hyn yn syniad hynod o amhoblogaidd, yn doedd?
ni ar ein pennau'n hunain fan hyn, rwy'n credu, 'Suk...
tybed a oes syniadau eraill 'da rhywun arall am sut i ddod â bywyd ychwanegol i fyd y cydflog.
ocê, 'te - ti a fi.
rwy'n fodlon profi peth mân o "lenz".
"a oes syniadau eraill 'da rhywun arall am sut i ddod â bywyd ychwanegol i fyd y cydflog?"
beth am ragor o adolygiadau ffilmiau? rwy'n siwr nad ŷn ni i gyd yn gwylio'r un pethau.
Post a Comment