Monday, March 17, 2008

millennium actress


newydd wylio millennium actress gan kon satoshi, ffilm am gof personol a chof diwylliannol, am fywyd fel mae'n cael ei fyw ac fel mae'n cael ei gynrychioli. ffilm lawn syniadau gweledol diddorol ofnadwy (fel yr îsl mae'r arlunydd 'di adael ar y lleuad...). ffilm ac ynddi gyfeiriadau difyr at throne of blood - ac at ffilmiau eraill nad adnabyddais i mohonyn nhw, mae'n siwr.
gwych o ffilm! rhaid yw gweld popeth arall gan yr un cyfarwyddyd nawr.

3 comments:

Gwybedyn said...

dyna'r gwaith sydd eisiau'i wneud, mae'n amlwg: cyfieithu ffilmiau anime a'u trosleisio yn Gymraeg.

wyt ti 'di llwyddo i gael dy gyd-letywyr i adael iti ddewis ffilmau unwaith eto, felly?

asuka said...

cytuno'n llwyr - byddai hi'n wych creu is-deitlau cymraeg ar gyfer llwyth o ffilmiau anime pwysig. rwy'n meddwl am hynny ers misoedd. i ddechrau, gallen ni eu rhoi nhw ar yr youtube cymraeg 'na gadawyd y sylw yn ei gylch gan rhodri nwdls mis diwetha.
gwyliais i "millennium actress" ar 'mhen fy hunan, gyda llaw :(

Gwybedyn said...

ahh - diwylliant yr isdeitlau! Gwell fyth.