Dydd Gŵyl Dewi Dedwydd! Ro’n i’n gwrando ar y radio y p’nawn ’ma, ar WGBH Celtic Sojourn gyda Brian O’Donovan, fel bob dydd Sadwrn. Ac am syndod! Dyna Aled ar y radio! Heddiw, mae’r radio yn dathlu Gŵyl Dewi, ac mae Aled yn trafod cerddoriaeth a rhaglenni Cymraeg. Dw i'n gwrando ar Brian O’Donovan ers o’n i'n ferch fach. Dw i wedi cyffroi'n fawr iawn!
Ar y foment, maen nhw wrthi'n siarad am y Gymraeg ym Moston. Mae Aled yn annog pobl i fynd i’r Cambridge Common i ddathlu'r ŵyl. Mae bwydlen Gymreig gyda'r dafarn heddiw.
Mae Harvard Cymraeg yn cynrychioli!
Saturday, March 01, 2008
Gŵyl Dewi!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
8 comments:
na! drueni nad own i'n gwybod - oes bosib gwrando ar y rhaglen ar y we o hyd, tybed?
bydd ar gael mae'n debyg ar-lein o ddydd Mawrth ymlaen (dolen i wbur yn y neges wreiddiol)
Cŵl!!! Chwarae teg i Aled - y Cymro enwocaf ym Massachusetts (heddiw, beth bynnag - ar wahân i Ddewi Sant, wrth gwrs!)
Dydy e ddim yn dweud unrhywbeth am hyn wrth unrhywun? Sneaky bastard!
Wir, syndod mawr ydy hwn. Allwn ni wrando arraglen ar Ryngrwyd?
dy gwestiwn wedi'i ateb yn barod, Edyto!
:)
Dwi ddim yn sicr pryd fydd y rhaglen 'na ar gael, Chwilod. Mae'r sioe Chwefror 9 ar lein nawr, ond does dim byd ar ôl hynny. Oes rhaid ini aros am bythefnos, wyt ti'n meddwl?
Clywais i gan y cyflwynydd y byddai'r rhaglen ar gael erbyn dydd Mawrth, ond rwyt ti'n iawn i amau pethau. Dydw i ddim yn gwybod rhagor na hynny, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu rhywbeth arall, on'd yw?
o wel. dim probs.
Rhaid bod hynny wedi cyffrous i wrando Aled ar y radio!
Post a Comment