Saturday, March 01, 2008

Cydnabyddiaeth i Glyndŵr

Dydd Gŵyl Dewi - diwrnod da i ddysgu y bydd Glyndŵr yn cael ei ddathlu ar stamp dosbarth cyntaf. Delwedd i'w gwneud hi ychydig yn haws i 'lyfu tîn y Cwîn', ys canai Løvgreen.

4 comments:

asuka said...

mae'r cerflun yn peri ofon ifi.

asuka said...

falle taw y tebygrwydd i ethan hawke sy'n ei wneud e.

Gwybedyn said...

ar y cerflun mae'n dweud:

Owain Glyndŵr
Brenin cyntaf Cymru
1400

"Veritas"

asuka said...

da iawn. beth am inni gasglu arian at godi copi nesa at yr hen john harvard yn yr iard?