Saturday, March 08, 2008

Ar gael nawr!!

Hei pawb! Mae rhaglen Celtic Sojourn gyda chyfweliad Alun Lion, neu Aled Clion, neu . . . wel, pwy-wyddost-ti . . . ar gael nawr yma . (Mae rhan Aled yn cychwyn ar ôl 62:00 - cerddoriaeth wych, hefyd.)



Mae'r ferch fach a fi'n mynd am dro yn y glaw y p'nawn 'ma. Dyn ni'n mynd â'r camera, ac mae ganddon ni gynllun i dynnu llun o'r arwyddion o wanwyn. 'Dyn ni wedi gweld cochgam a saffrymau yn barod. Effallai y byddwn ni'n dod o hyd i ryw ryfeddod newydd. Cawn ni weld!

5 comments:

asuka said...

diolch am y ddolen - joiais i wrando ar y cyfweliad yn fawr.
neis cael darllen am y cochgam a'r saffrymau hefyd! (er na wn i'r geiriau, ac adnabyddwn i mo'r blodau 'chwaith 'swn i'n eu gweld nhw mewn gardd, mae'n debyg!)

Gwybedyn said...

tybed a sylwodd unrhyw un arall ar y gwallau ffeithiol (hanesyddol) yn y rhaglen, wrth i'r hurtyn Alan Xion geisio esbonio hynt a helynt sefydlu S4C!?

Ond ie - cerddoriaeth dda yn achub y dydd!

asuka said...

rwy'n credu i'r boi wneud yn dda iawn.

Gwybedyn said...

ach, rwyt ti'n rhy garedig, 'Suk!

eto, o leiaf i'r ffw^l o Gymro hirwallt ragflaenu ei sylwadau ffug-hanesyddol gyda "Rwy'n credu...". Fel arall byddai wedi pardduo'n llwyr enw da Astudiaethau Celtaidd yn Harvard, wrth iddo fynnu i S4C gael ei sefydlu ryw 3 blynedd yn ddiweddarach nag a ddigwyddodd mewn gwirionedd.

Na maddeuer.

Malone said...

Hei, bydd yn neis, Chwilen! O'n i'n meddwl fod e'n gwneud jobyn da iawn yn wir! Chwarae teg i'r ffŵl hirwallt! ; )