Tuesday, February 26, 2008

y ddinas


on'd wyt ti'n meddwl taw y ddinas fawr yw patrwm yr amlfydysawd? rhan mor fach fyddi di'n gwybod o be' sy'n mynd ymlaen yn y ddinas - bron dim byd. 'mond ychydig iawn o'r trigolion fyddi di'n 'nabod. felly pwy a ŵyr a oes robotiaid yn byw ac yn cwympo mewn cariad rywle yn dy ddinas dy hunan? 'falle cyfarfyddi di nhw yfory.
rwy'n edrych ymlaen at gael byw mewn dinas o iawn eto.

7 comments:

Gwybedyn said...

be!

'di Bangor ddim yn ddigon ta iti!?

cont!

Malone said...

nawr nawr. Mae'r chwilod yn gymeriad garw.

Gwybedyn said...

;)

"ddim yn ddigon da" oedd gen i mewn golwg, ond rhaid bod meddwl am Fangor fach annwyl wedi drysu fy mhen bach du.

asuka said...

roedd 'na ddaeargryn ym mhrydain neithiwr ac maen nhw'n gweud y gellid ei deimlo ym mangor, ond cysgais i trwyddo fe.

asuka said...

ac smo dy sarhadau di'n peri imi ddim gofid 'chwaith.

Gwybedyn said...

ofna, ofna go iawn! nid daeargryn oedd yno ond sŵn traed miloedd ar filoedd o chwilod blin yn hercian yn benderfynol - ar eu pennau duon ac ar eu coesau tenau - ar eu ffordd i achub y cam a gafodd dinas Bangor drwy law Asuka.

asuka said...

gwna' i ddringo i mewn i fy siwt robot anferth a'u sathru nhw dan draed!