Monday, February 11, 2008

faint yn hwy bydd rhaid inni aros?


ers pryd mae pobl 'di bod yn edrych 'mlaen at ddyfodiad y cyflwr ôl-ddynol - seiberneteg, rhithfydoedd, gallu llwytho lan dy ymwybod di ar y we, ac ati? ers llawer dydd.
pan own i yn f'arddegau, rown i'n disgwyl byddwn i 'di cael 'nghysylltu lan â rhyw beiriant mewn pòd erbyn hyn, ac wedi ymadael â fy hunaniaeth ddynol yn llwyr. ond ydw i? na' dw, ac mae'n rhaid cyfadde' 'mod i'n siomedig ofnadwy.
pam rŷn ni'n boddran am baratoi ein hunain ers blynyddoedd drwy ddarllen y llyfrau cywir a gwylio'r ffilmiau i gyd, os nad yw e'n mynd i ddigwydd byth?

3 comments:

Gwybedyn said...

diddorol sylwi, 'Suk, dy fod ti'n sgwennu 'yn moyn'.

Mae Gareth King yn dysgu hyn, hefyd, eto byddwn i'n tueddu i ddefnyddio 'moyn' yn gwmws fel 'eisiau' (h.y. heb y geiryn berfol).

Rwy'n gweld fod amrywiaeth ar y we - rhai yn defnyddio, rhai ddim. Oes 'na rywbeth diddorol i'w ddweud am y patrymau hyn?

asuka said...

y fi roiodd yr ŵ a'r ŷ uchod i bobl eu copio wrth sgrifennu sylwadau. balch fod ti'n eu leicio nhw.
dim ond arbrofi rown i pan bostiais y sylw ti'n cyferio ato, szch, ac ydy, mae e 'di mynd erbyn hyn. ond paid â becso gormod - doedd e ddim mor ddiddorol â hynny!

asuka said...

"moyn"/"yn moyn"
rown i heb glywed "moyn" moel o'r blaen (neu heb sywli arno). diddorol dros ben. rwy'n siwr bod 'na lawer i'w ddweud am yr amrywiaeth hon, ond sa' i'n cofio gweld dim byd yn ei chylch. ble byddet ti'n edrych?