Monday, February 25, 2008

Mwy nag un niwtrino

Reit, bobl, dyma'n cyfle i roi'r byd yn ei le - ac nid rhyw byd bach dinod, chwaith, ond byd sylweddol, sylfaenol y bydysawd ei hun

Yn ôl rhai, mae gan y gair 'niwtrino' ffurf luosog yn y Gymraeg (fel y dylai fod), sy'n edrych fel hyn: 'niwtrinoeon'

Nawr 'te, mae'n siwr y gallwn ni wneud yn well na hynny. Beth am

niwtrinoaid (ar batrwm 'cadno')
niwtrinawau (ar batrwm 'cinio' a 'cadno')

Dewch â'ch cynigion - bydd yr un gorau yn ennill gwobr: niwtrino bach cyfeillgar i'w garu ac i'ch caru'n ôl.

5 comments:

asuka said...

falle fod e'n mynd fel "co":
"niwtrinofion"? neu "niwtrinoue"?

asuka said...

mae bruce griffiths yn awgrymu "niwtrinos" - rhag eich cywilydd, bruce!

Gwybedyn said...

beth am batrwm 'llo' a 'tro'

"niwtrinoi" neu "niwtrinoion"

neu batrwm 'Cymro'

"niwtriny"

;)

Gwybedyn said...

Patrwm 'glo'

"tunnell o niwtrino"

asuka said...

man a man inni stopio - "niwtriny" sy'n mynd â'r wobr yn 'nhyb i.
y gystadleuaeth fyrra' erioed!