Wednesday, February 13, 2008

Llyfrau o'r Gorffennol


Diolch iti, Persephone, am y ddolen yna. Stwff da iawn.

Trueni, serch more ddefnyddiol mae'r wefan, nad y'n nhw'n gwahaniaethu rhwng 'mwy' a 'rhagor':

"Mae Llyfrau o'r Gorffennol yn gasgliad ar-lein o lyfrau o ddiddordeb diwylliannol cenedlaethol sydd allan o brint ers amser maith. Darllenwch fwy ynglŷn â'r prosiect hwn."

Hmm... mae'n siwr _fod_ 'mwy' i'w ganfod yn y lle arall, ond gweld 'rhagor' sydd eisiau (sef pethau ychwanegol, ac nid jyst mwy o'r un hen bethau...).

4 comments:

asuka said...

mae'n amlwg fod ti'n colli'r frwydr honno, szch! falle bydd rhaid iti jest gael plant i drosglwyddo dy DNA ieithyddol iddynt.

Gwybedyn said...

wyt ti'n gêm 'Suk?

asuka said...

beth am i ti gael plant, wrth i finnau gael plant gwahanol, ac i ni'n dau ddysgu i'n gwahanol lwythau o blant iwso "rhagor" yn gywir?!

Gwybedyn said...

ok - cer di i ga'l plant ac mi ga' innau fwy o blant a chei di gael rhagor fyth.