Friday, February 08, 2008

ffilm drist


newydd fod yn gwneud i 'nghydletywyr wylio un o'r ffilmiau anime gwych: "grave of the fireflies," sy'n drist ofnadwy, ac nawr maen nhw 'di mynd i'r gwely dan lefain. sa' i'n siwr beth o'n nhw'n ddisgwl ond ro'n nhw'n dawel braidd ar ei hôl hi a gwnaeth un, jenny, ofyn: "oes ots 'da ti os wyliwn ni un hapus tro nesa'?"
tybed gaf i ddewis ffilm i gwylio eto!
sori - rhaid ifi fynd nawr i mofyn neisied.

No comments: