Saturday, February 09, 2008

coctêl afiach


rwy ym mangor ers pythefnos yn barod - ac am ifi addo rhoi ychydig o newyddion ar y blog 'ma, treia' i wneud hynny nawr.
rwy 'di cael hyd i lety mewn tŷ ym mangor isaf, ochr arall i'r cwm o brif adeiladau'r coleg. fues i erioed ym mangor o'r blaen a synnais i weld pa mor bert oedd hi a dweud y gwir ar ôl popeth own i 'di glywed ynghylch y lle. llawer mwy o dai bychain pert ar ôl nag own i'n ddisgwyl - ac mae prif adeiladau'r coleg yn olygus iawn! heb os dim newyddion fydd hyn i lawer ddarleniff hyn, ond mae'n newydd i fi.
gyda myfyrwyr israddedig rwy'n byw cofiwch ac mae'n ddiddorol dros ben gweld eu diwylliant nhw oddi agos. eu diwylliant yfed yn enwedig (fel soniais wrth szch). pryd caeth coctêls "jaegermeister" a "red bull" eu dyfeisio? rwy'n gweld y syniad - cymryd dau beth sy'n blasu fel moddion peswch pob un a'u cymysgu nhw - ond rwy'n ffaelu gweld pam byddet ti am yfed jygiaid o'r stwff. dim diolch.

4 comments:

Gwybedyn said...

mae Bangor yn lle hollol wahanol i'r hyn ddychmygais i...

dy ddisgrifiadau (y tai, y coctêls, yr harddwch)...

ond yn fwy na dim, y llun gymeraist ti o'r coleg ar y bryn... waw! ai honno yw Adran y Gymraeg?

asuka said...

ie, 'na hi. fel y gellwch chi ddychmygu, mae'n bwysig wrth leoli adran mewn prifysgol dewis rhywle sy'n ddigon hawdd ei amdiffyn, a gwnaethon nhw jobyn da iawn fan hyn a'r wn i. maen nhw'n gweud bod john morris-jones ei hunan yn arfer rhoi coctêls ar dân a'u harllwys i lawr ar bennau ei elynion o'r tŵr hwnna.

Gwybedyn said...

yr hen "academaidd dost" enwog - esboniwyd byth yn gwmws beth wnelent i'w gelynion gyda'r ffyrc, o flaen tân y swyddfa glyd.

Gwybedyn said...

lle'r aeth y sylwad yna gen ti, 'Suk? Ces wybod fod "ŵ ŷŵ ŷŵ ŷ" wedi'i bostio gen ti, ond mae 'di diflannu.

O b'le, gyda llaw, mae'r "symbolau defnyddiol' 'na yn dod? Syniad da.