Sunday, February 24, 2008

dda genny' mo'r e-byst brwnt 'ma!


mae'n gas 'da fi agor f'e-bost ben bore a chael hyd i lwythi o sbam ac iddyn nhw linellau testun hollol ddi-chwaeth - chimod y fath beth rwy'n sôn amdano. ffordd afiach o ddechrau'r dydd.
felly roedd hi'n syrpréis neis braidd gweld neges sbam ges i wythnos diwetha', a oedd â'r teitl "Presents for darling"! 'sdim ots 'da fi gael neges fel honna. ddarllenais i mohoni am taw sbam oedd hi o hyd - sa' i'n 'nabod dim "warren" di-gyfenw - ond sbam eitha' annwyl beth bynnag.
o leia', rown i'n meddwl taw darn o sbam oedd y peth. hmmm. falle ifi wneud camgymeriad wrth ei ddileu heb ei agor... warren?! wyt ti'n darllen hyn, f'anwylyd? ydy'r "presents" 'na'n dal gyda ti?

4 comments:

Gwybedyn said...

blydi hel!

a sôn am negeseuon afiach!

wyt ti 'di darllen y neges sydd o amgylch y llun bostiaist ti!?!?!?!?

:)

asuka said...

down i ddim 'di sylweddoli gellid defnyddio gwyddor ddiarth fel prawf "blotyn inc" fel'ny - diddorol dros ben!

Gwybedyn said...

'to darl': berf o darddiad diweddar sy'n golygu 'rhoi, rhoddi, cyflwyno' yng nghyd-destun yr afiach a'r amhleserus.

asuka said...

paid dweud hynny - os yw e'n wir, sa' i am ei wybod e.
ie,... *os* yw e'n wir :)